Rhannu Cymraeg English

Profion a thriniaeth meddygol

Adref 3 rhan 1

Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen cynnal prawf meddygol er mwyn:

  • penderfynu a achoswyd unrhyw anafiadau gan gamdriniaeth neu'n ddamweiniol;
Er enghraifft, a yw’r clais ar ochr person hŷn â demensia yn gymesur â baglu yn erbyn bwrdd neu a yw’n debygol o fod yn bwrpasol?

Cydsyniad ac archwiliadau meddygol

Dylid ceisio cydsyniad yr oedolyn sy’n wynebu risg.

Os nad oes gan yr unigolyn y galluedd i roi ei gydsyniad, dylid penderfynu a yw cynnal prawf meddygol, a allai fod yn ymwthiol er lles gorau’r unigolynAdran 4 Deddf Galluedd Meddyliol (2005).

Os penderfynir bod hyn er lles gorau’r oedolyn, yna ystyriwch:

  • cadw tystiolaeth fforensig, er enghraifft dillad;
  • cynnwys unrhyw aelodau'r teulu neu ofalwyr;
  • cefnogi’r oedolyn sy’n wynebu risg, er enghraifft, trwy ganfod pwy yw’r unigolyn mwyaf addas i ddod gydag ef;
  • cyfeirio’r unigolyn i gael eiriolwr.