Rhannu Cymraeg English

Rheoli anawsterau i gael mynediad

Adref 3 rhan 1

Er ei bod yn hanfodol gweld a siarad â’r oedolyn sy’n wynebu risg sy’n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso ac sydd angen gweithredu i’w ddiogelu, gallai fod yn anodd cysylltu ag ef.

Er enghraifft: Mae mynediad i’r safle yn cael ei wrthod yn gyfan gwbod gan drydydd parti ar y safle, yn benodol aelod o’r teulu, ffrind neu ofalwr anffurfiol arall.

Gellir cael mynediad i’r safle, ond nid yw’n bosibl siarad â’r oedolyn ar ei ben ei hun – oherwydd bod y trydydd parti yn mynnu bod yn bresennol.

Mae’r oedolyn sy’n wynebu risg fel pe bai dan ddylanwad y trydydd parti ac mae’n mynnu y dylai’r trydydd parti fod yn bresennol.

Dylid gwneud pob ymdrech i ddatrys y sefyllfa. Os bydd hyn yn methu, dylai’r awdurdod lleol ystyried p’un ai a:

  • ydy’r gwrthodiad i roi mynediad yn afresymol;
  • a yw’r amgylchiadau yn cyfiawnhau ymyrraeth.

Os penderfynir bod angen defnyddio pwerau cyfreithiol ac y gellir cyfiawnhau gwneud hynny, dylai ymarferwyr, ar y cyd â’u rheolwr ac ymgynghorwyr cyfreithiol, benderfynu pa bwerau yw’r mwyaf addas ar gyfer y sefyllfa.

Dylai unrhyw benderfyniadau a’r rhesymau drostynt gael eu cofnodi’n glir ac yn llawn.

Pwerau cyfreithiol perthnasol

Mae’n bosibl y bydd y pwerau cyfreithiol canlynol yn berthnasol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau:

  • Os yw'r person wedi'i asesu fel rhywun â diffyg galluedd meddyliol mewn perthynas â mater yn ymwnued â lles, mae gan y Llys Gwarchod y pŵer i wneud gorchymyn dan Adran 16(2) Deddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn perthynas â lles neu eiddo person. Gall y Llys hefyd benodi dirprwy i wneud penderfyniadau lles ar ran yr unigolyn hwnnw.
  • Os bydd oedolyn â galluedd meddyliol, sy’n wynebu risg o gam-drin neu esgeulustod, yn cael ei atal rhag ymarfer y capasiti hwnnw’n fel y mynnai, mae awdurdod ymlynol yr Uchel Lys yn galluogi’r Llys i wneud gorchymyn (a allai ymwneud â chael mynediad at yr oedolyn) neu unrhyw ddull o wella y mae’r Llys yn ei ystyried yn addas (er enghraifft, hwyluso’r broses o gymryd penderfyniad oedolyn â galluedd meddyliol heb ddylanwad diangen, pwysau nac orfodaeth) mewn unrhyw amgylchiadau nad ydynt yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth na rheolau penodol.
  • Os oes pryder ynghylch person ag anhwylder meddwl, mae Adran 115 Deddf Iechyd Meddwl 1983 diwygiwyd 1998 yn rhoi pŵer i weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymwysedig (wedi’i gymeradwyo gan awdurdod lleol dan y Ddeddf Iechyd Meddwl) archwilio unrhyw eiddo (ac eithrio ysbytai) y mae unigolyn ag anhwylder meddwl yn byw ynddo, ar gyflwyno manylion adnabod dilys a chywir, os oes gan y gweithiwr proffesiynol achos teg i amau nad yw’r unigolyn yn derbyn y gofal cywir.
  • Os credir bod y person ag anhwylder meddwl, ac amheuir esgeulustod neu gam-drin, dan Adran 135(1) Deddf Iechyd Meddwl 2005 mae gan llys yr ynadon y pŵer, ar gais gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymwysedig, i ganiatáu i’r heddlu gael mynediad i eiddo gan ddefnyddio grym os oes angen ac os yw'n briodol, i fynd â'r person i le diogel os oes achos rhesymol i amau ei fod yn dioddef o anhwylder meddwl ac (a) wedi cael, neu yn cael ei, drin yn wael, ei esgeluso, neu ddim yn cael ei gadw dan reolaeth briodol, neu (b) yn byw ar ei ben ei hun a ddim yn gallu gofalu amdano'i hun.
  • Pŵer cyfraith gyffredin yr heddlu i atal, a delio â thorcyfraith. Er nad yw torcyfraith yn drosedd y gellir ei hinditio, mae gan yr heddlu bŵer cyfraith gyffredin i gael mynediad ac arestio person i atal torcyfraith.

Mae gan yr heddlu bwerau i fynd i mewn i eiddo:

  • Pŵer i fynd i mewn ac arestio person am drosedd yr gellir ei hinditio o dan adran 17(1)(b) Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE);
  • Pŵer i fynd i mewn i eiddo heb warant er mwyn achub bywyd neu atal niwed difrifol i eiddo o dan adran 17(1)(e) PACE. (Byddai hyn yn sefyllfa o argyfwng a dim ond yr heddlu ddylai ymarfer y pŵer hwn).
  • Os bydd yr heddlu’n credu bod y gyfraith wedi cael ei dorri, neu ar fin cael ei dorri, ar eiddo preifat, gallant ddefnyddio eu pŵer cyfraith gyffredin i fynd i mewn i’r eiddo heb warant i atal y torcyfraith.

Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (APSO)

Nod Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion yw galluogi oedolion sy’n wynebu risg i fynegi eu barn yn annibynnol. Dylid ceisio’r rhain yn anaml ar ôl i ddulliau llai ymyraethol gael eu hystyried a/neu eu trio. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau pan fydd ymarferydd y gwasanaethau cymdeithasol, neu ymarferydd arall sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod lleol, yn cael ei atal rhag siarad â’r oedolyn yr amheuir ei fod yn wynebu risg oherwydd cam-drin neu esgeuluso neu fod ymarferydd yn amau y gallai’r oedolyn fod yn cael ei orfodi neu ei fygwth i beidio â siarad â’r ymarferydd, gall yr awdurdod lleol wneud cais am APSO.

O.N. Nid yw Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion yn rhoi pŵer symud ymaith. Yr egwyddor yw y dylai oedolyn sy’n wynebu risg allu fynegi ei ddymuniadau’n rhydd a dylid ei barchu.

Er enghraifft, mae hysbysiad wedi dod i law gan aelod o’r cyhoedd bod oedolyn ag anableddau dysgu’n cael ei gam-drin yn gorfforol a’i esgeuluso gan berthynas. Mae gwiriadau cychwynnol yn nodi bod y dyn hwn yn byw mewn carafán adfeiliedig ar fferm. Mae ymarferydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â’r fferm ac mae ewythr y dyn yn atal yr ymarferydd rhag ei weld, gan ddweud bod ei nai yn swil dros ben ac nad yw am siarad ag unrhyw un a bod popeth yn iawn. Nid yw hyn i’w weld yn gymesur â’r amodau byw. Mae’r ymarferydd yn sylwi ar ddyn tenau a brwnt iawn yn syllu allan o du ôl ffenestr brwnt iawn y carafán. Mae’r wybodaeth arall a gasglwyd gan asiantaethau eraill yn nodi nad yw’r dyn ar gofrestr gyda Meddyg Teulu nac yn hysbys i unrhyw wasanaethau eraill. Ar ôl trafod â’r rheolwr diogelu a’r heddlu, penderfynir gwneud cais am APSO.

Cynlluniwyd y gorchymyn i:

  1. galluogi swyddog awdurdodedig1 o’r awdurdod lleol i bennu p’un a yw’r person hwnnw’n gwneud penderfyniadau’n rhydd;

a

  1. galluogi’r swyddog awdurdodedig i asesu’n gywir p’un a yw’r unigolyn yn oedolyn sy’n wynebu risg;

a

  1. phenderfynu, yn unol â gofynion adran 126(2) [Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014](www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/pdfs/anaw_20140004_en.pdf pa gamau gweithredu y dylid eu cymryd, os o gwbl.

Ynad heddwch wnaiff y gorchymyn ac mae’n rhaid iddo fod yn fodlon â phwynt 1 a 2 a:

  • ni fydd arfer y pŵer mynediad yn rhoi’r person mewn mwy o risg o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Bydd APSO yn:

  • yn pennu cyfnod pan fydd y gorchymyn mewn grym;
  • yn nodi'r safle dan sylw, mae hyn yn cynnwys eiddo domestig, cartref symudol, adeilad neu strwythur arall y mae’r unigolyn yn byw ynddo, cartref preswyl, nyrsio neu ysbyty;
  • darparu i’r swyddog awdurdodedig i ddod yng nghwmni swyddog yr heddlu.

Wrth wneud y penderfyniad o ran p’un a ddylid gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (APSO) dylid ystyried y cwestiynau canlynol a’u nodi yn y cais:

  • Beth yw’r amgylchiadau eithriadol sydd wedi arwain at y cais am Orchymyn Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion?
  • Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn sy’n cefnogi’r cais hwn?
  • Pa ymdrechion a wnaed i sicrhau mynediad at yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i weld?
  • Beth fydd ymarferwyr yn ei wneud os bydd y cais am Orchymyn Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion yn llwyddiannus?
  • Pa mor hir fydd yn cymryd?
  • Beth yw’r strategaeth ymadael?

Mae’n bosibl y gall y APSO ganiatáu i unigolyn penodol arall fynd gyda’r swyddog awdurdodedig. Enghreifftiau o’r math o berson a gaiff ei gynnwys o bosibl:

  • y gweithiwr allweddol (gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr gofal iechyd);
  • gweithiwr gofal preswyl;
  • eiriolwr (statudol neu anstatudol);
  • aelod o’r teulu neu ffrind agos;
  • aseswr budd gorau;
  • meddyg teulu; neu
  • gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Bydd y rolau a ragwelir ar gyfer y rhai sy’n dod yng nghwmni’r swyddog awdurdodedig yn amrywio. Byddant yn cynnwys:

  • sicrhau bod unrhyw gyfweliad â’r unigolyn yr amheuir ei fod yn wynebu risg yn cael ei gynnal yn deg;
  • darparu gwybodaeth a phrofiad arbenigol ar faterion penodol (e.e. galluedd);
  • eirioli ar ran y person;
  • rhannu eu gwybodaeth bresennol am y person;
  • adeiladu perthynas gyda’r person;
  • galluogi’r swyddog awdurdodedig i ymchwilio pryderon ar y cyd â, er enghraifft, gweithiwr allweddol, swyddog yr heddlu, gweithiwr iechyd proffesiynol neu Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus; a
  • helpu i gyfathrebu â’r oedolyn (neu unrhyw aelod arall o’r aelwyd), er enghraifft, cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain, darllenwr gwefusau, cyfathrebydd Makaton, cyfieithydd cyfathrebiadau byddar-dall neu gyfieithydd ar y pryd.

(Gweler Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 4 Gorchymyn Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion am ragor o fanylion.

Rhaid i ymarferwyr sydd â gwybodaeth am yr oedolyn sy’n wynebu risg, ei deulu a’i ofalwyr gyfathrebu a rhannu gwybodaeth er mwyn cefnogi a deall yr angen am yr APSO.


1Cyflogir swyddog awdurdodedig gan yr Awdurdod Lleol, mae wedi ymgymryd â hyfforddiant arbenigol ac mae'n ofynnol iddo gadw eu sgiliau'n gyfredol