Rhannu Cymraeg English

Cau’r Broses Ddiogelu (Amddiffyn Oedolion)

Adref 4

Pan fo ymholiadau a126 yn arwain at roi camau ar waith (Penderfyniadau 2 a 3), dim ond y cydlynydd arweiniolar y cyd ag aelodau'r cyfarfod strategaeth/trafodaeth a/neu gynhadledd amddiffyn oedolion a all benderfynu y gall y broses ddiogelu ddod i ben.

Gall fod achosion pan gynhelir dim ond un cyfarfod strategaeth/trafodaeth cyn gwneud y penderfyniad hwn.

Yr hyn sy'n bwysig yw mai cyfrifoldeb y grŵp strategaeth yw penderfynu hyn yn seiliedig ar y wybodaeth/tystiolaeth a gyflwynir a bod y penderfyniad hwn a'r sail resymegol dros ei wneud yn cael eu cofnodi'n glir.

Dylai’r penderfyniad fod yn seiliedig ar y canlynol:

neu

Pan fo hynny’n bosibl, dylid cynnwys yr oedolyn sy’n wynebu risg wrth gau’r broses ddiogelu.

Dylid hysbysu’r holl asiantaethau ac ymarferwyr perthnasol sy’n ymwneud â’r oedolyn sy’n wynebu risg pan fo’r broses amddiffyn oedolyn wedi dod i ben.

Os yw’r broses amddiffyn oedolyn yn dod i ben ond bod y perygl yn cynyddu neu fod achos o gam-drin neu esgeuluso yn codi yn nes ymlaen, dylid cwblhau adroddiad ac ymholiadau newydd.

Cau achos oherwydd diffyg ymgysylltiad parhaus gan yr oedolyn sy'n wynebu risg

Ar adegau, gall oedolyn sy’n wynebu risg benderfynu nad yw am barhau gyda’r cynllun. Dylai’r grŵp strategaeth gyfarfod ac ystyried pam fod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn tynnu’n ôl o’r cynllun.

Dylid ystyried: