Rhannu Cymraeg English

Cwynion

Adref 4

Dylid adrodd unrhyw gwynion ynghylch y tîm rheoli neu sut y caiff achos diogelu cyfredol ei drin wrth y rheolwr gwasanaethau cymdeithasol sy’n gyfrifol am yr achos. Bydd y rheolwr â chyfrifoldeb yn ceisio datrys unrhyw bryderon a godwyd o fewn y broses ddiogelu cyn belled na fydd hyn yn rhoi’r broses yn y fantol. Ni ddylid cynnal ymchwiliad cwynion tra bod unrhyw bosibilrwydd y buasai hynny’n rhoi’r broses diogelu oedolyn yn y fantol.

Wedi cwblhau’r broses ddiogelu, cysylltir â’r achwynydd i ystyried a oes angen mynd i’r afael ag unrhyw fater sy’n parhau trwy’r weithdrefn gwyno.

Pan fo’r gŵyn ynghylch gweithredoedd un ymarferydd sy’n gweithio i asiantaeth arall, dylid dilyn hyn trwy weithdrefn gwyno’r asiantaeth honno.

Dylai fod gan bob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol weithdrefn gwyno ar waith i ymdrin â chwynion am broses amlasiantaeth, megis cyfarfod strategaeth amddiffyn oedolion. Dylai proses gwyno fynd i’r afael â natur amlasiantaeth proses yn hytrach na chwyn yn erbyn camau asiantaeth unigol y dylid mynd i'r afael â hi drwy ei gweithdrefn gwyno ei hun.