Rhannu Cymraeg English

Cyflwyniad

Adref 5

Mae’r gweithdrefnau hyn yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer ymateb i bryderon diogelu ynghylch y rhai hynny y mae eu gwaith, naill ai’n gyflogedig neu’n wirfoddol, yn dod â nhw i gyswllt â phlant neu oedolion sy’n wynebu risg. Mae hefyd yn cynnwys unigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu ar gyfer plant neu unigolion y mae angen gofal a chymorth arnynt ac y mae eu gwaith cyflogedig neu eu gwaith gwirfoddol yn dod â nhw i gysylltiad â phlant neu oedolion sy’n wynebu risg.

Nod y canllawiau hyn yw cefnogi gweithdrefnau disgyblu mewnol a rhoi arweiniad ar gyfer delio’n briodol ag unrhyw bryderon neu honiadau o gam-drin, esgeulustod neu niwed proffesiynol, a sicrhau bod pob honiad o gamdriniaeth a wneir yn erbyn staff neu wirfoddolwyr sy’n gweithio â phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael ei drin mewn modd teg, cyson ac amserol.

Y prif ffactor i’w ystyried wrth gymhwyso’r gweithdrefnau hyn yw pa un a yw’r unigolyn sy’n destun yr honiad neu’r pryder, mewn swydd o ymddiriedaeth; hynny yw, lle mae gan aelod o staff/gwirfoddolwr bŵer neu ddylanwad dros blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg, yn rhinwedd y gwaith neu natur y gweithgaredd sy’n cael ei wneud.

Mae cyfeiriadau at blant yn y ddogfen hon yn golygu unrhyw blentyn sydd heb gyrraedd ei ben-blwydd yn ddeunaw oed. Diffinnir “plentyn mewn perygl” yn adran 130(4) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel plentyn:

  • sy’n cael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn rhyw ffordd arall, neu mae perygl i hynny ddigwydd; ac
  • sydd ag angen gofal a chymorth (p’un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio).

Mae cyfeiriadau at oedolion sy’n wynebu risg yn cynnwys oedolion 18 oed a hŷn Diffinnir “oedolyn sy’n wynebu risg” yn adran 130(4) [Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014] (www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/pdfs/anaw_20140004_we.pdf) fel oedolyn:

  • sy’n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu mae perygl i hynny ddigwydd;
  • sydd ag angen gofal a chymorth (p’un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio). ac
  • o ganlyniad i'r anghenion hynny, sy’n methu amddiffyn ei hun yn erbyn y cam-drin neu'r esgeulustod neu'r perygl o hynny.