- Sicrhau bod plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu diogelu rhag unigolion sydd o bosib yn beryglus yn y lleoliad y maen nhw’n gweithio neu’n gwirfoddoli ynddo
- Sicrhau bod honiadau a phryderon diogelu yn cael eu hystyried mewn modd teg, cyson ac amserol ac yn unol â chanllawiau statudol
- Sicrhau bod cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor priodol ar gael ar gyfer pawb yr effeithir arnynt yn ystod y broses hon
- Sicrhau bod unigolion nad ydynt yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu hatal rhag gwneud hynny drwy roi gwybod i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chyrff eraill perthnasol a phroffesiynol
- Rhaid i awdurdodau lleol benodi uwch reolwr sy’n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â’r gweithdrefnau hyn. Gellir dirprwyo’r rôl hon ond mae angen uwch reolwr trosgynnol sy’n gyfrifol.
Mae’r diffiniad o ‘waith’ yn cynnwys y canlynol:
- Y rhai sy’n gyflogedig, gan gynnwys staff dros dro, staff asiantaeth a’r rhai a gyflogir fel Cynorthwywyr Personol dan y cynllun taliadau uniongyrchol
- Unigolion sy’n gwneud gwaith gwirfoddol di-dâl
- Unigolion sy’n hunangyflogedig ac sy’n gweithio’n uniongyrchol, neu sydd wedi’u contractio i weithio, mewn darparu gwasanaethau i blant ac oedolion sy’n wynebu risg
Mae’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau canlynol yn sail i’r gweithdrefnau hyn a dylid eu darllen ar y cyd â nhw:
Adrodd
Dylai’r person sy’n derbyn honiad neu bryder am y tro cyntaf, drin y mater o ddifri a chadw meddwl agored.
Ni ddylent:
- Ymchwilio na gofyn cwestiynau arweiniol
- Rhagdybio neu gynnig esboniadau amgen
- Addo cyfrinachedd – dylai’r person/personau gael eu cynghori y bydd y pryder yn cael ei rannu ar sail ‘angen i wybod’
Dylent:
- Wneud cofnod ysgrifenedig o’r wybodaeth (gan ddefnyddio lle bo hynny’n bosibl, eiriau’r plentyn/oedolyn ei hun), gan gynnwys yr amser, y dyddiad a’r lleoliad lle digwyddodd y digwyddiad honedig, yr hyn a gafodd ei ddweud ac a oedd unrhyw un arall yn bresennol
- Arwyddo a rhoi dyddiad ar y cofnod ysgrifenedig
- Adrodd am y mater ar unwaith i’r Swyddog Diogelu Penodedig (o fewn ei hasiantaeth), neu ddirprwy yn ei absenoldeb
- Os y Swyddog Diogelu Penodedig yw testun yr honiad, dylai’r wybodaeth gael ei rhoi i Reolwr Uwch
Rhaid nodi bod rhai honiadau mor ddifrifol fel y dylid euhysbysu’n syth at yr heddlu a/neu Wasanaethau Plant/Oedolion. Nid bwriad y polisi hwn o gwbl yw rhwystro’r angen i ymateb yn syth neu ar frys i amgylchiadau sy’n amlwg yn ddifrifol, er bod disgwyl i’r Swyddog Diogelu Penodedig gael gwybod am ddigwyddiadau tebyg ar y cyfle cyntaf posib ac, ymhob achos, o fewn 24 awr ar ôl i’r pryder godi (y diwrnod gwaith nesaf os yw y tu allan i oriau).
Dylai’r person sy’n adrodd ei gwneud yn gwbl eglur bod hyn yn bryder/honiad diogelu ynglŷn â gweithiwr proffesiynol, gwirfoddolwr neu ofalwr a, lle bo’n bosibl, dylai anfon dogfennaeth ategol, megis yr asesiad risg, i ddangos yn eglur pa gamau diogelu a gymerwyd er mwyn amddiffyn unrhyw blant ac oedolion sy’n wynebu risg.
Mewn achosion lle mae plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg y gellir ei adnabod sydd wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, caiff Gweithdrefnau Diogelu Cymru eu gweithredu a’u dilyn ochr yn ochr â’r broses a nodir yn y polisi hwn. Os nad oes plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg y gellir ei adnabod, ac os yw’r gweithiwr proffesiynol yn bodloni’r meini prawf uchod, yna caiff y gweithdrefnau hyn eu rhoi ar waith o hyd.
Mewn achosion lle mae modd adnabod plentyn, person ifanc neu oedolyn sy’n wynebu risg sydd efallai wedi mynegi pryder neu wedi cael ei gam-drin, bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gwneud asesiad cymesur yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhaid i ganlyniad yr asesiad hwn gael ei adrodd yn ôl i’r Swyddog Diogelu Penodedig.
Efallai bydd rhaid i’r cyflogwr/sefydliad gwirfoddol neu’r corff proffesiynol ystyried gwahardd y cyflogai heb ragfarn, neu roi cymorth neu gyfyngiadau yn eu lle i ddiogelu pobl fregus. Bydd hyn hefyd yn diogelu’r cyflogai yn erbyn cyhuddiadau o ymyrryd â’r ymholiadau ac fel modd o ddiogelu’r sefydliad. Os nad yw’r honiad wedi dod o’r tu mewn i sefydliad y cyflogai ac wedi cael ei gyfeirio’n briodol, yna dylai’r heddlu a/neu’r Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Oedolion ystyried dweud wrth y Swyddog Diogelu Penodedig yn yr asiantaeth gyflogi bod honiad wedi cael ei wneud yn erbyn aelod o staff a bod angen ymchwiliadau ffurfiol.
Dylai unrhyw berson sydd â phryder:
- Gyflwyno adroddiad i’r Gwasanaethau Cymdeithasol
- Cael cyngor a chymorth gan ei reolwr llinell
- Gwneud cofnod o’r pryderon ac unrhyw gamau a gymerwyd a chan bwy, yn unol â pholisi ei asiantaeth. Dylai hyn gynnwys y rhesymeg dros unrhyw benderfyniadau a wnaed
- Cwblhau asesiad risg priodol i sicrhau bod plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu hamddiffyn
- Os yw’r person yn ofalwr maeth neu’n ofalwr mewn lleoliad i oedolion, dylid ystyried yr angen am drefniadau gofalu diogel ar gyfer unrhyw blant neu oedolion sy’n wynebu risg dan ei ofal
- Os yw’r person yn gweithio mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol, dylid ystyried sicrhau bod mesurau amddiffynnol yn cael eu gweithredu mewn perthynas ag unrhyw blant neu oedolion eraill sydd sy’n wynebu risg.
- Rhaid i’r cyflogwr gael cyngor gan yr heddlu a/neu’r SPALl ynglŷn â swm yr wybodaeth y gellir ei datgelu i’r sawl y mae’r pryder yn cael ei fynegi amdano.
- Dylai’r cyflogwr gynnig cymorth lles i’r sawl y mae’r pryder amdano.