Rhannu Cymraeg English

Y Drafodaeth am Strategaeth Broffesiynol:

Adref 5

Bydd y drafodaeth strategaeth broffesiynol bob amser yn cael ei chynnal â’r heddlu ac unrhyw asiantaethau/partneriaid priodol eraill. Fel rhan o’r broses hon bydd Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Oedolion yn ystyried rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac unrhyw gyrff proffesiynol perthnasol fel sy’n briodol. Dylent gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod/drafodaeth strategaeth sy’n dilyn.

Dylai’r drafodaeth strategaeth ganolbwyntio ar y canlynol:

  • A yw’r mater yn bodloni’r trothwy ar gyfer symud ymlaen at Gyfarfod Strategaeth Proffesiynol ffurfiol
  • Nodi unrhyw weithgareddau neu gyfrifoldebau gofalu ar gyfer plant neu oedolion y mae’r sawl y gwneir yr honiad yn ei erbyn â rhan ynddynt y tu allan i’w waith cyflogedig
  • Ystyriaeth o gamau diogelu dros dro tra bo ymholiadau pellach yn cael eu gwneud
  • Penderfyniad ynglŷn â pha wybodaeth y gellir ei rhannu â’r sawl y gwneir yr honiad yn ei erbyn, y plentyn neu’r oedolyn sy’n wynebu risg a’r rhiant/gofalwr
  • Penderfyniadau ynglŷn â chyfranogiad y cyflogwr yn y broses
  • Adolygu pa mor ddigonol yw’r camau diogelu sydd yn eu lle
  • Cytuno ar unrhyw gamau gweithredu i’w cymryd neu unrhyw wybodaeth bellach y mae ei hangen cyn y Cyfarfod Strategaeth Proffesiynol
  • Penderfynu a oes angen briffiau ar unwaith i reolwyr.