Rhannu Cymraeg English

Cyfrinachedd a chofnod o’r cyfarfod strategaeth proffesiynol

Adref 5

Yng ngolau sensitifrwydd posib yr wybodaeth a gwersi Ymchwiliad Bichard (2004), dylid cymryd gofal wrth gofnodi’r pryder a chanlyniad y broses.

Caiff cofnod o’r cyfarfod ei wneud a’i gadw gan yr awdurdod lleol yn unol â’i bolisi cofnodi, cadw a gwaredu. Dylai cynrychiolwyr y cyflogwr sy’n bresennol dderbyn copi o’r crynodeb ac argymhellion y cyfarfod gydag enw’r plentyn neu’r oedolyn sy’n wynebu risg wedi’i dynnu ymaith. Bydd pawb arall sy’n bresennol yn derbyn copi o’r crynodeb a’r argymhellion.

Bydd y Swyddog Diogelu Penodedig yn ystyried unrhyw gais am gofnod llawn o’r cyfarfod ac yn sicrhau, yn achos datgeliad, mai fersiwn wedi’i golygu’n briodol fydd yn cael ei rhyddhau.

Pan fydd person yn gwneud cais gwrthrych am wybodaeth ar gyfer cofnod y Cyfarfod Strategaeth Proffesiynol, caiff hyn ei ystyried a bydd y Swyddog Diogelu Penodedig yn sicrhau bod y ddogfen yn cael ei golygu cyn iddi gael ei rhyddhau. Gwneir cyfranogwyr eraill y cyfarfod yn ymwybodol o’r cais a gellir anfon copi o’r ddogfen wedi’i golygu atynt ar gais.

Datrys gwahaniaethau proffesiynol

Lle mae gwahaniaeth barn broffesiynol, dylid cyfeirio at Brotocol y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ar gyfer Ddatrys Gwahaniaethau Proffesiynol.

Nod yr Atodiadau i’r ddogfen hon yw cynnig fframwaith sy’n rhoi gwybodaeth ac yn cefnogi arfer gorau.

Atodiad 1: Map o’r Broses

referrals_flowchart_cymraeg

Atodiad 1: Siart Lif y Broses