Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Weithiau mae Adolygiadau Ymarfer Oedolion yn beio ymarferwyr am fethu â defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Gall methu â chanolbwyntio ar yr unigolyn arwain at ymyleiddio eu profiadau, eu dymuniadau a'u teimladau.

Canfuwyd bod y canlynol yn cynorthwyo ymarferwyr i gynnal dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth weithio gydag oedolion sy’n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod:

  1. Gweld a siarad â’r unigolyn. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr ystyried y ffordd orau i hwyluso gallu'r unigolyn i gymryd rhan yn y broses ddiogelu. Er enghraifft, trwy gymorth cyfathrebu neu eiriolaeth. Mae'n bwysig sefydlu perthynas agored a gonest fel bod yr oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod yn teimlo'n ddigon hyderus i siarad yn rhydd.
  2. Canfod mwy am eu profiad byw dyddiol. Er mwyn nodi a diwallu anghenion oedolynsy’n wynebu risg , mae angen deall sut brofiad yw diwrnod yn eu bywydau, eu teimladau am eu diwrnod, a sut yr hoffent ei newid. Mae hefyd yn bwysig gwybod sut mae eu profiad diwrnod yn newid ar benwythnosau, gwyliau a phryd mae gwahanol bobl yn gofalu amdanynt. Dim ond trwy ddeall eu profiad bywyd beunyddiol y gall ymarferwyr werthfawrogi sut mae camdriniaeth neu esgeulustod yn effeithio ar yr unigolyn, ei anghenion, meysydd gwytnwch a ffactorau risg.
  3. Sefydlu'r hyn yr hoffent ei weld yn newid yn eu bywydau bob dydd. Er mwyn deall canlyniadau personol yr unigolyn, yr hyn y mae'n dymuno ei gyflawni a'r hyn sy'n bwysig iddo, mae hefyd yn bwysig sefydlu sut mae'r oedolyn yn dymuno i'w fywyd beunyddiol newid. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth i ymarferwyr i ddeall sut mae’r oedolyn sy’n wynebu risg yn dirnad y gamdriniaeth neu esgeulustod y mae yn ei brofi, ei effaith, a’r canlyniadau personol y gobeithiant eu cyflawni drwy ymyrraeth broffesiynol.
  4. Cydnabod efallai na fydd dymuniadau mewn rhai achosion yn diystyru buddiannau diogelu. Mae'n bwysig cymryd dymuniadau a theimladau'r unigolyn o ddifrif, ond gall eu dymuniadau gael eu hanwybyddu os nad oes gan yr oedolyn sy’n wynebu risg y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau sydd er ei fudd gorau ei hun.

Am ragor o wybodaeth, gweler:

SCIE (2016) Making Safeguarding Personal (Cyrchwyd 29/07/2019)