Gall y risg o gamdriniaeth neu esgeulustod gan ofalwr oedolyn sy’n wynebu risg gynyddu os yw’r gofalwr wedi’i ynysu, neu heb ddigon o gefnogaeth.
Mae Bwrdd Diogelu Gwlad yr Haf1 wedi nodi sefyllfaoedd posibl lle mae oedolyn sy’n wynebu risg o bosibl yn agored i gamdriniaeth neu esgeulustod gan ofalwr. Nodir dau brif achos:
Yr oedolyn sy’n wynebu risg :
- ag anghenion iechyd a gofal y tu hwnt i allu'r gofalwr i ddiwallu'r anghenion hynny
- yn gwrthod cymorth a chefnogaeth gan bobl heblaw'r gofalwr
- yn gwrthod cael ei adael ar ei ben ei hun ddydd na nos
- yn rheoli adnoddau
- yn sarhaus, yn ymosodol neu'n arddangos ymddygiadau brawychus
- ddim yn deall effaith ei ymddygiad ar ei ofalwr
- yn ddig am ei sefyllfa ac yn cosbi'r gofalwr
- ddim yn ystyried anghenion y gofalwr
- yn trin y gofalwr â diffyg parch a/neu gwrteisi.
Gofalwyr:
- ddim yn cael diwallu eu hanghenion eu hunain
- yn agored i gamdriniaeth neu esgeulustod gan yr oedolyn sy’n wynebu risg
- â diffyg dealltwriaeth a mewnwelediad i gyflwr a/neu anghenion yr oedolyn sy’n wynebu risg
- wedi gorfod newid eu ffordd o fyw yn anfodlon
- ddim yn derbyn cefnogaeth ymarferol ac/neu emosiynol
- teimlo'n ynysig, yn cael eich tanbrisio neu eu gwarthnodi
- wedi gofyn am gymorth ond heb ei dderbyn, neu wedi derbyn cymorth nad oedd yn ymdrin â’r broblem
- â chyfrifoldebau eraill - er enghraifft, gofalu am deulu, gweithio
- heb fywyd personol na phreifat y tu allan i'w rôl ofalu
- yn teimlo nad yw'r oedolyn sy’n wynebu risg , y teulu a/neu ymarferwyr yn eu gwerthfawrogi neu eu bod yn camfanteisio arnynt.
Am ragor o wybodaeth, gweler:
1Somerset Safeguarding Adults Board Carers and Safeguarding (Cyrchwyd 29/7/2019)