Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Hwyluso ymgysylltiad â’r oedolyn mewn perygl

Wrth gynllunio ymyriadau, mae angen ystyried y canlynol:

  • Tybiwch fod gan yr oedolyn alluedd meddyliol. Os aseswyd nad yw'r oedolyn yn gallu cymryd rhan yn yr asesiad ac/neu'r ymyrraeth ar amser penodol, dylai ymarferwyr weithio yn unol â'r Ddeddf Galluedd Meddyliol ac ystyried y byddai defnyddio cymorth eiriolaeth a/neu fathau eraill o ymgysylltu yn sicrhau y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud er eu budd gorau
  • Mae ymgysylltu'n gynnar yn hanfodol i adeiladu perthynas o ymddiriedaeth
  • Sicrhewch fod ymyriadau'n cael eu darparu mewn ffordd gydweithredol, gan dynnu'r oedolyn sy’n wynebu risg i mewn ar bwynt cynnar, i'w annog i helpu i ddatblygu atebion i'w broblemau ei hun.
  • Sicrhewch fod cefnogaeth yn cael ei darparu mewn ffordd y gall yr oedolyn sy’n wynebu risg a'r gofalwr/gofalwyr gysylltu â hi, er enghraifft, defnyddio eu hesiamplau eu hunain o heriau wrth drafod a'u hannog i rannu syniadau a gwybodaeth am yr hyn sy'n gweithio iddynt.
  • Byddwch yn ymwybodol y gellir gweld rhai lleoliadau mewn goleuni negyddol ac efallai y bydd oedolion sy’n wynebu risg yn poeni am y stigma cymdeithasol posibl sydd ynghlwm wrth eu mynychu.
  • Mae cyfathrebu clir yn bwysig, fel eu bod yn deall beth i'w ddisgwyl gan wasanaeth penodol a bod ganddynt wybodaeth gywir.
  • Sicrhewch fod gwybodaeth yn hygyrch i oedolion sy’n wynebu risg sydd â llythrennedd cyfyngedig, anawsterau dysgu, neu a allai fod â Saesneg/Cymraeg fel ail iaith/iaith ychwanegol.
  • Ystyriwch gludiant; er enghraifft, yn byw mewn lleoliad gwledig gyda mynediad cyfyngedig i drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Annog perchnogaeth bersonol ar amcanion, nodi “enillion cyflym” i helpu i gynyddu hyder, ac adolygu cynnydd yn rheolaidd.

(Wedi'i addasu ar gyfer oedolion o ganllawiau rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, 2017)

Am ragor o wybodaeth, gweler:

Canllawiau Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017 (Cyrchwyd 29/7/2019)