Dylid ystyried y canlynol wrth ddatblygu ymyriadau:
- Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i wella canlyniadau
- ystyried amgylchiadau unigol
- cydnabod ac addasu i anghenion sy'n newid
- caniatáu i'r oedolyn sy’n wynebu risg gymryd rheolaeth o'i fywyd a rhoi mwy o ymdeimlad o berchnogaeth a buddsoddiad iddo yn ei ganlyniadau
- meithrin sgiliau a mecanweithiau ymdopi
- hyrwyddo gwytnwch
Dylai cyd-gynhyrchu cynllun sicrhau:
- ymateb cydgysylltiedig ac amlasiantaethol
- dilyniant di-dor i deuluoedd rhwng gwahanol ymyriadau a rhaglenni
- rhaid cynnal dull egnïol a ffocws di-baid a all addasu i amgylchiadau newidiol yr oedolyn sy’n wynebu risg
(Wedi'i addasu ar gyfer oedolion o ganllawiau rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017)
Am ragor o wybodaeth, gweler:
Easton, C., Lamont, L., Smith, R. and Aston, H. (2013). ‘We Should Have Been Helped from Day One’: a Unique Perspective From Children, Families and Practitioners. Findings from LARC5. Slough: NFER (Cyrchwyd 29/7/2019)
Canllawiau Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017 (Cyrchwyd 29/7/2019)