Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Rhwystrau posibl i adnabod ac hysbysu am gamdriniaeth ac esgeulustod

Nid oes unrhyw esgus dros fethu â chyflawni’r ddyletswydd i hysbysu am oedolyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod. Fodd bynnag, gall ffactorau goddrychol ddylanwadu ar wneud penderfyniadau ar y cam hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ofn bygythiadau gwirioneddol neu ganfyddedig gan y teulu a/neu'r gymuned;
  • pryder bod yr atgyfeiriad yn torri ymddiriedaeth;
  • dymuno cadw ymreolaeth broffesiynol a rheoli'r sefyllfa;
  • gor-uniaethu â gofalwyr a gwneud esgusodion a/neu gyfiawnhau ymddygiadau a allai fod yn ymosodol;
  • pryderon na fydd yr hysbysiad yn cael ei gymryd o ddifrif;
  • poeni y bydd yr hysbysiad yn arwain at drallod sylweddol i'r oedolyn sy’n wynebu risg a'r teulu/gofalwyr, ond na ddarperir unrhyw gymorth a chefnogaeth ystyrlon oherwydd diffyg adnoddau;
  • gor-uniaethu â theulu/gofalwyr a gwneud esgusodion am ymddygiad;
  • normaleiddio math penodol o gamdriniaeth neu esgeulustod oherwydd cyffredinedd sefyllfa benodol. Er enghraifft, gall camddefnyddio alcohol neu gyffuriau fod yn gyffredin mewn meysydd penodol a thrais domestig sy'n deillio o hyn i oedolion sy’n wynebu risg;
  • cred y gall yr ymddygiad fod yn dderbyniol mewn diwylliant neu grefydd benodol.
  • gor-optimistiaeth am sefyllfa: ei gweld fel digwyddiad unwaith ac am byth neu ddamwain;
  • amharodrwydd i dderbyn y gall gweithwyr proffesiynol neu'r rheini mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch gyflawni camdriniaeth neu esgeulustod;
  • cael eu sicrhau gan gamdriniwr eu bod wedi newid neu y byddant yn newid ac/neu'n ymgysylltu â gwasanaethau.

Mae'n hanfodol bod ymarferwyr yn myfyrio ar y ffordd y gall y ffactorau goddrychol hyn ddylanwadu ar wneud penderfyniadau i beidio ag hysbysu .

Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r arweinydd diogelu neu'ch rheolwr.

Dylai rheolwyr ac arweinwyr dynodedig bob amser archwilio unrhyw ffactorau goddrychol a allai fod yn dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau gan staff.


Am ragor o wybodaeth, gweler:

Age UK (2019) ‘Particular Issues for Older People’ in Safeguarding older people from abuse and neglect, (Cyrchwyd 12/7/2019)