Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Ceisio cydsyniad

Gall ceisio caniatâd i asiantaethau rannu gwybodaeth, pan mai'r bwriad yw cyflwyno hysbysiad i'r gwasanaethau cymdeithasol, fod yn hynod anodd. Mewn astudiaeth a gwblhawyd gan Horwath (2007), disgrifiodd ymarferwyr o ystod amrywiol o ddisgyblaethau sut roeddent yn aml yn bryderus am ymatebion posibl teuluoedd. Roeddent yn ofni naill ai ymatebion ymladd, fel ymddygiad ymosodol corfforol a geiriol, neu ymatebion ffoi, fel tynnu’n ôl o wasanaethau.

Mae'r potensial am ymatebion negyddol yn debygol o gael ei leihau os yw'r ymarferydd sy’n ceisio cydsyniad:

  • yn egluro pam fod angen rhannu gwybodaeth a gyda phwy; (er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith sy'n ymwneud â chyfrinachedd, diogelu data a hawliau dynol, dylai ymarferwyr allu esbonio'r pwrpas cyfreithlon ar gyfer rhannu gwybodaeth)
  • yn gwirio bod unrhyw wybodaeth ffeithiol yn gywir ac yn gyfoes, fel enwau, dyddiadau geni;
  • yn sicrhau bod y wybodaeth yn gymesur at y diben;
  • yn egluro sut y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio;
  • yn nodi sut y bydd yn cael ei rhannu a sut y bydd yn cael ei storio'n ddiogel;
  • yn amlinellu goblygiadau peidio â rhoi caniatâd;
  • yn egluro'r camau nesaf.