Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Asesu Galluedd Meddyliol

Wrth asesu p’un a all oedolyn sy’n wynebu risg gydsynio, dylid ystyried y canlynol:

  • Pa dystiolaeth sydd yna nad oes gan yr oedolyn sy’n wynebu risg o niwed alluedd meddyliol? Cofiwch nad oes angen i'r unigolyn feddu ar yr un graddau o ddealltwriaeth â gweithiwr proffesiynol er mwyn gwneud penderfyniad.
  • A oes rhagdybiaethau'n cael eu gwneud ynghylch galluedd yn seiliedig ar oedran, ymddangosiad, cyflwr neu ymddygiad?
  • A yw'r oedolyn yn gallu gwneud penderfyniadau am unrhyw agwedd ar y broses? Cofiwch fod galluedd yn benodol i benderfyniad penodol sy'n cael ei wneud

Enghraifft: efallai na fydd ganddynt y gallu i wneud penderfyniad ynghylch a ddylid cwblhau atgyfeiriad, ond efallai y gallant nodi ble yr hoffent i unrhyw asesiad dilynol gael ei gynnal a phwy yr hoffent fod yn bresennol.

  • A wnaed pob ymdrech i annog cyfranogiad? Pa gymorth ymarferol a roddwyd i alluogi'r oedolyn sy’n wynebu risg wneud penderfyniad? Pam na fu hyn yn llwyddiannus?
  • A ddarparwyd dulliau priodol o gyfathrebu i’r oedolyn sy’n wynebu risg, er enghraifft cyfieithydd, offer cyfathrebu cryfhaol?
  • A yw'r pryderon ynghylch galluedd yn bodoli oherwydd bod yr unigolyn wedi gwneud yr hyn y mae eraill yn ei ystyried yn benderfyniad annoeth? Nid yw hyn ar ei ben ei hun yn golygu nad oes ganddynt alluedd.
  • A yw colli galluedd yn beth dros dro oherwydd, er enghraifft, cyffuriau? A fyddai gohirio nes eu bod wedi adennill galluedd yn eu rhoi mewn mwy o berygl o niwed?
  • Beth ydym ni'n ei wybod am hanes yr oedolyn sy’n wynebu risg? A yw hyn yn dweud unrhyw beth wrthym am ei ddymuniadau, ei deimladau, ei gredoau a'i werthoedd yn y gorffennol a'r presennol?

(Addaswyd o Ddeddf Galluedd Meddwl y GIG)


Am ragor o wybodaeth, gweler:

NHS Mental Capacity Act, (Cyrchwyd 21/7/2019)

Henke R, Shepherd, l and O’Callaghan, A (2019) A Practitioner’s Guide. Basic Legal Principles NISB Wales