Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Llunio hysbysiad

Wrth gasglu gwybodaeth at ei gilydd i lunio hysbysiad i'r gwasanaethau cymdeithasol, dylai'r sawl sy'n llunio’r hysbysiad:

  1. Fod yn barod i egluro pam ei fod yn meddwl bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn profi neu mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ac esgeulustod: natur y pryderon a'r dystiolaeth i gefnogi hyn. A yw'r dystiolaeth yn seiliedig ar arsylwi, ffeithiau, barn neu achlust?
  2. Fod â’r wybodaeth wrth law (Arwyddion a dangosyddion posibl o gamdriniaeth ac esgeulustod mewn oedolyn sy’n wynebu risg) ar gyfer hysbysiad cyn cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol oni bai bod angen gweithredu ar unwaith.
  3. Darparu gymaint o fanylion a thystiolaeth benodol â phosib. Mae hyn yn fwyaf tebygol o arwain at gyd-ddealltwriaeth rhwng y sawl sy’n ffurfio’r hysbysiad a’r sawl sy’n derbyn yrhysbysiad . Er enghraifft: ‘nid yw 'mae gan Mr Jones gleisiau ar ei freichiau' yn rhoi'r un arwydd o natur a difrifoldeb yr anaf â: 'mae gan Mr Jones gleisiau ar ei freichiau sy'n borffor tywyll, mae'r cleisiau yr un maint â blaenau bysedd oedolyn, ac ymddengys fod eu lleoliad ar ei freichiau uchaf yn dangos nad ydynt yn rhai damweiniol.’
  4. Byddwch yn ymwybodol nad yw hysbysiadau’n digwydd mewn gwagle. Byddwch yn onest a myfyriwch ar y ffactorau a allai fod yn dylanwadu ar y ffordd y mae'r hysbysiad yn cael ei ystyried. Er enghraifft, gall llunwyr hysbysiadau boeni y bydd eu perthynas â'r unigolyn a'i deulu yn cael ei heffeithio; gallant fod yn bryderus ynghylch gadael sefyllfa dros benwythnos; neu efallai eu bod yn poeni am fodloni meini prawf trothwy asiantaeth, ac mae hyn yn eu poeni fwy na nodi anghenion yr unigolyn. Gall unrhyw un o'r ffactorau hyn arwain at or/tan-bwysleisio'r risg o niwed.
  5. Dogfennwch yr holl faterion sy'n peri pryder; trafodaethau a gynhaliwyd yn enwi'r trafodwr a'r canlyniad a chyswllt â'r unigolyn sydd sy’n wynebu risg, ei deulu a'i ofalwyr.