Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: O’r ddyletswydd i hysbysu wrth y gynhadledd amddiffyn oedolion

Y sefyllfa Mae’r claf mewn ysbyty cymunedau oherwydd haint wlseri gwely. Dywed fod ei brif ofalwr yn aelod o’r teulu:

  • wedi gwrthod i staff gofal gael mynediad i’w cartref
  • ddim yn darparu gofal sylfaenol digonol
  • yn dwyn ac yn defnyddio arian y claf ar gyfer ei anghenion personol ddim yn ymdopi

Y broses Mae’r nyrs gofrestredig yn gwneud dyletswydd i hysbysu am gam-drin ac esgeulustod posibl i wasanaethau cymdeithasol


Y sefyllfa Nodir anghenion gofal, cymorth ac amddiffyn y claf

Cysylltwyd â’r heddlu oherwydd honiadau am gam-drin ariannol ac esgeulustod

Gwneir trefniadau gydag ymarferwyr iechyd i ohirio’r dyddiad rhyddhau o’r ysbyty

Y broses Mae’r gwasanaethau cymdeithasol, yn ystod cam sgrinio y broses, yn gwirio ffeithiau a chywirdeb yr adroddiad ac yn cysylltu â’r heddlu

Cymerir penderfyniad bod angen amddiffyn ar unwaith.

Cychwynnir ymholiadau adran 126.


Y sefyllfa Mae ymarferydd iechyd sy’n adnabod yr oedolyn mewn perygl yn cwblhau gwerthusiad cychwynnol

Nodir anghenion gofal, cymorth ac amddiffyn yr oedolyn ar y cyd â’r oedolyn mewn perygl sydd â’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau am anghenion a chanlyniadau a ddymunir.

Mae’r unigolyn yn aros yn yr ysbyty nes y caiff cynllun amddiffyn gofal a chymorth ei roi ar waith.

Penderfyniad 3 – ystyrir bod yr oedolyn yn wynebu risg a bod angen cymryd camau i’w amddiffyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso

Y broses Mae’r asesiad cychwynnol yn dechrau a phennir ymarferydd i’w gwblhau.

Cwblheir gwerthusiad cychwynnol o fewn 7 diwrnod gwaith a deuir at ganlyniad.


Y sefyllfa Mae’r drafodaeth yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol (yn yr ysbyty a’r feddygfa deulu) a’r heddlu.

Caiff cynllun amddiffyn gofa a chymorth ei roi ar waith ac mae pawb yn cytuno y gellir rhyddhau’r oedolyn sy’n wynebu risg o’r ysbyty yn ôl i’w breswylfa. Mae’r gofalwr yn cydweithredu â’r cynllun.

Credir bod gan y claf y gallu meddyliol ac mae wedi cytuno i ymholiadau a126

Y broses Cynhelir trafodaeth strategaeth o fewn 7 diwrnod gwaith ar ôl i’r asesiad cychwynnol gael ei gwblhau.

Cytuno ar gynllun amddiffyn gofal a chymorth


Y sefyllfa Mae’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gweithwyr clinigol yn parhau i gadw mewn cysylltiad a chynhelir trafodaethau strategaeth ychwanegol a gwneir trefniadau rhyddhau o’r ysbyty.

Er y cynllun sydd ar waith, mae’r risg yn dal i fodoli gan fod y gofalwr a oedd yn caniatáu i staff gofal fynd i’r cartref, nawr yn gwrthod mynediad eto. Mae’r oedolyn sy’n wynebu risg yn cytuno i gael cyfnod mewn gofal seibiant wrth i gyfnod newydd o ymholiadau a126 gael ei gynnal.

Y broses Mae ymholiadau a126 yn dechrau


Y sefyllfa Penderfyniad 3 – mae’r oedolyn sy’n wynebu risg ac mae angen cymryd camau yn y tymor hirach i’w ddiogelu. Cynhelir trafodaethau/cyfarfodydd strategol ychwanegol cyn cynnal cynhadledd achos

Y broses Outcome of s126 enquiries agreed.


Y sefyllfa Mae’r oedolyn sy’n wynebu risg yn dymuno dychwelyd adref er gwaethaf y risgiau i’w hun a chytunir ei fod ef a’i ofalwr yn derbyn cynllun amddiffyn gofal a chymorth yn y tymor hir. Dyma gynlyn mwy cynhwysfawr sy’n mynd i’r afael ag anghenion yr oedolyn sy’n wynebu risg a’r gofalwr

Mae’r heddlu yn ymchwilio honiadau am gam-drin ariannol ond yn methu dod o hyd i dystiolaeth

Y broses Cynhelir cynhadledd a chwblheir ymchwiliad yr heddlu


Y sefyllfa Bodloni anghenion gofal a chymorth drwy wasanaethau a roddir yng nghartref yr oedolyn mewn perygl. Ni nodir unrhyw faterion diogelu parhaus.

Y broses Adolygu’r cynllun