Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Adnoddau asesu risg

Mae amrywiaeth helaeth o ddulliau asesu risg ar gael i gynorthwyo ymarferwyr wrth iddynt benderfynu a yw oedolion mewn perygl yn dioddef o gam-drin neu esgeulustod.

Bydd gan bob Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol hefyd ei ddulliau asesu risg ei hun, er na fyddant wedi eu datblygu mor dda ym maes diogelu oedolion â maes amddiffyn plant. Gall y dulliau hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth gasglu gwybodaeth. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod asesiadau sy’n defnyddio dulliau yn peidio â throi yn weithgaredd technegol-resymegol. I aralleirio, mae’n bwysig canolbwyntio ar yr unigolyn a chydnabod bod pob achos yn benodol i’r cyd-destun.

Cwblhaodd Barlow et al (2012) adolygiad o ddulliau asesu wedi eu creu i asesu’r niwed i blant. Mae eu canfyddiadau yn berthnasol i oedolion sy’n wynebu risg . Maent wedi dod i’r casgliad bod dulliau effeithiol:

  • Yn safoni ond hefyd yn pwysleisio defnydd barn broffesiynol
  • Yn cefnogi cymhwysedd a hyder proffesiynol
  • Yn sicrhau bod y cymhlethdod yn cael ei gynnal
  • Yn cynorthwyo wrth nodi niwed a p’un a yw’n debygol iddo ddigwydd
  • Yn cymryd agwedd ecolegol
  • Yn adnabod y gwahanol gamau sydd yn rhan o’r broses asesu
  • Yn darparu arweiniad ar y defnydd o’r dull mewn gwahanol leoliadau sefydliadol
  • Yn pwysleisio gwaith mewn partneriaeth
  • Yn defnyddio tystiolaeth orau.

    Am wybodaeth ychwanegol gweler:

Barlow, J et al, (2012) A systematic review of models of analysing significant harm (DoE), (Cyrchwyd 24/7/2019)