Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Asesiadau risg a dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Y ffaith yw bod pob bywyd yn cynnwys risgiau, ac mae risgiau ychwanegol i’r ifainc, yr oedrannus a’r bobl sy’n agored i niwed, ac mae’r rhain yn beryglon nad yw’r bobl hynny wedi eu paratoi’n dda ar eu cyfer o’u cymharu â phobl eraill. Ond yn yr un modd y mae rhieni doeth yn gwrthod y temtasiwn i or-warchod eu plant, mae’n rhaid inni hefyd wrthod y temtasiwn i roi iechyd a diogelwch corfforol y bobl oedrannus a’r rhai sy’n agored i niwed yn uwch nag unrhyw beth arall. Yn aml, bydd yn briodol gwneud hyn, ond nid pob tro. Gall iechyd a diogelwch corfforol fod ei sicrhau am bris rhy uchel o ran hapusrwydd a lles emosiynol. Mae’n rhaid cadw’r pwyslais ar arfarniad risg synhwyrol, nid ar geisio osgoi pob risg, pa bynnag yw’r pris, ond yn hytrach, chwilio am gydbwysedd priodol a bod yn barod i oddef risgiau y gellir eu rheoli ac sy’n fwy derbyniol a thalu’r pris yn briodol er mwyn cyflawni rhywbeth da - yn arbennig er mwyn cyrraedd hapusrwydd a lles y bobl oedrannus ac agored i niwed. Pa ddaioni ddaw o ddiogelu rhywun os yw hynny’n ei wneud yn ddigalon?’

Y Barnwr Munby ar Awdurdod Lleol X yn erbyn MM&Anor (Rhif1) (2007), (Cyrchwyd 6/6/2019)

Wrth asesu ac ymateb i gam-drin ac esgeulustod tuag at oedolyn sy’n wynebu risg , mae’n bwysig cadw’r uchod mewn cof. Y benbleth sy’n tarddu o’r uchod i ymarferwyr yw cynnal cydbwysedd rhwng annibyniaeth ac amddiffyniad. Cwblhaodd Barry (2007) adolygiad o’r llenyddiaeth ryngwladol a chanfu fod deddfwriaeth a chanllawiau wedi pwysleisio’n gynyddol annibyniaeth a phobl yn cael rhagor o gyfraniad a rheolaeth dros eu bywydau. Mae hyn yn amlwg er enghraifft, yn yr egwyddorion sy’n sail i Ddeddf 2014 a thaliadau uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y gall ymarferwyr dderbyn penderfyniadau am lefelau risg nad ydynt yn cytuno â nhw, os oes galluedd meddyliol gan yr oedolyn sy’n wynebu risg.

Gellir sicrhau y cynhelir dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynnal asesiadau risg os yw’r ymarferwyr yn cydnabod:

  • Nad oes penderfyniad heb unrhyw niwed
  • Bod penderfyniadau effeithiol yn cael eu seilio ar gynllunio a rhesymoli asesiadau a dadansoddiadau risg
  • Bod tystiolaeth gadarn yn allweddol
  • Dylai ymarferwyr a’r oedolyn sy’n wynebu risg gyrraedd at ddealltwriaeth a rennir o ran y pryderon
  • Bod asesiadau risg yn broses barhaus.

    Am wybodaeth ychwanegol gweler

Barry, M (2007) Effective approaches to Risk Assessment in Social Work. An international literature review Scottish Executive. (cafwyd ar 18/7/2019)