Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Anghenion gofal a chymorth neu anghenion gofal a chymorth ac amddiffyn?

Mae ymarferwyr yn dod ar draws heriau sylweddol wrth bennu trothwyon ar gyfer ymyriadau. Mae’n amhosibl cyrraedd cytundeb cyffredinol o ran trothwyon oherwydd mai pobl ac nid gwrthrychau yw’r testun ac mae angen asesu pob achos ar sail amgylchiadau’r person penodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ymarferwyr ddefnyddio’u barn broffesiynol wrth ddysgu p’un ai oes gan oedolyn sy’n wynebu risg anghenion gofal a chymorth ac amddiffyn.

Mae nifer o rwystrau at wneud penderfyniadau cyson. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Dehongliadau goddrychol anghyson o gam-drin ac esgeuluso
  • Gwahaniaethau rhwng asiantaethau wrth ddehongli’r trothwyon
  • Cydbwyso’r angen i rymuso unigolion gyda lleihau risg
  • Ystyried oedolion sy’n wynebu risg yn ‘agored i niwed’ a’r holl oblygiadau hynny
  • Asesu galluedd meddyliol ynglŷn â phenderfyniadau penodol
  • Diffyg eglurer o ran rolau a chyfrifoldebau
  • Cymdeithas sy’n ceisio osgoi risgiau sy’n arwain at agwedd amddiffynnol

Ar ben hynny, er yr ewyllys da yn y byd, mae gan ymarferwyr unigol eu rhagfarnau, gwerthoedd a chredoau a fydd yn effeithio ar y ffordd y maent yn ystyried yr oedolyn sydd mewn perygl a’i sefyllfa.

Rhai safbwyntiau cyffredin yw:

  • Dad-ddyneiddio’r unigolyn drwy weld y person fel y broblem neu'r mater, er enghraifft ‘yr achos esgeulustod’
  • Safbwyntiau oedraniaethol am anghenion pobl hŷn. Gellir cynnal safbwyntiau tebyg o ran pobl ag anableddau dysgu
  • Rhagdybio bod oedolion sydd eisoes yn ddibynnol iawn ar ofalwyr neu staff er enghraifft, mewn cartref gofal, yn methu adnabod beth yw eu hanghenion eu hun a’r canlyniadau y maent yn eu dymuno
  • Gwneud rhagdybiaethau am oedolion sy’n wynebu risg o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Er enghraifft, mae teuluoedd o Dde Asia yn goflau am eu pobl hŷn eu hun.

Mae’n bwysig felly bod ymarferwyr yn gofyn iddynt eu hunain yn rheolaidd ‘Sut mae fy marn yn dylanwadu ar fy nghanfyddiadau am y sefyllfa hon? Mae’n bwysig bod y goruchwylwyr yn adnabod ac yn herio rhagfarnau, gwerthoedd a chredoau’r ymarferwyr os bwriedir canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynnal asesiadau risg.