Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Paratoi adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd diogelu

Canfu trosolwg Cymru gan Robinson e tal. (2018) o adolygiadau arfer oedolion, adolygiadau dynladdiad a dynladdiad meddyliol faterion allweddol o ran asesiadau ac adroddiadau, ac yn eu plith:

  • ‘Roedd yr asesiadau a gynhaliwyd gan ymarferwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar agweddau penodol o ymddygiad, gan anghofio eraill, a thrwy hynny leihau cywirdeb cyffredinol yr asesiad’.
  • Aseswyd bod rhai unigolion mewn perygl (h.y. agored i niwed) yn hytrach na’u bod yn risg (h.y. niweidiol)
  • Byddai gweledigaeth gul yn golygu y câi naratif ei lunio ac y câi ymarfer ei lunio i ffitio'r naratif penodol hwnnw
  • Nododd cyfranogwyr grŵp ffocws y gall asesiadau gael eu gyrru dan broses, gan arwain at eu hystyried yn ymarferion ‘ticio bocsys’ (o bosibl o ganlyniad i effaith Dangosyddion Perfformiad Allweddol). Cytunwyd bod angen asesiad holistig, parhaus ac y dylai asesiadau fod yn ddogfennau ‘byw’. Ystyriwyd bod asesiadau’n fwy cadarn o gael eu hail-werthuso neu ddiweddaru’n rheolaidd; gan gynnwys mewnbwn acx ystyriaethau o effeithiau ar y teulu; gan ddefnyddio safbwyntiau amlasiantaeth (T8-10)

Er mwyn osgoi’r ymarferion hyn, mae’n bwysig i ymarferwyr wrth lunio adroddiadau i nabod:

  1. Mae asesiad effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth holistaidd o amgylchiadau’r oedolyn sy’n wynebu risg , meysydd pryder a chryfderau’r teulu o ystod o safbwyntiau ymarferwyr.
  2. Cynhelir asesiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn pan fo ymarferwyr yn ystyried effaith cam-drin neu esgeulustod ar yr oedolyn sy’n wynebu risg. E.e. os oes pryderon am gam-drin domestig, beth mae’r oedolyn sy’n wynebu risg wedi’i ddisgrifio? Beth mae ymarferwyr yn ei weld o’i ymddygiad?
  3. Peidiwch â rhoi rhestr o ddyddiadau neu gysylltiadau asiantaeth heb roi rhyw arwydd o natur y cyswllt a’r canlyniad. Meddyliwch pam fod y dyddiadau a’r camau gweithredu hyn yn berthnasol?
  4. Wrth benderfynu beth i’w gynnwys yn yr asesiad holwch eich hun os yw hyn yn berthnasol? A yw’r wybodaeth yn gwella ein dealltwriaeth o’r sefyllfa? Os oes amheuaeth gennych trafodwch gyda’r gweithiwr cymdeithasol.
  5. Mae ymarferwyr yn cyfrannu at y gynhadledd i wneud barn ar bryderon a chryfderau, o’u safbwynt proffesiynol. Peidiwch â bod ofn ei ddefnyddio. Gwerthfawrogir barn broffesiynol pawb.
  6. Sicrhewch eich bod yn cefnogi’ch dadansoddiad â thystiolaeth o’r hyn a arsylwyd gennych, a ddwedwyd wrthych gan y teulu neu o ymchwil.
  7. Mae sefydlu’r profiad byw dyddiol yn rhoi cipolwg i ymarferwyr i sut mae diwylliant, crefydd, anabledd a materion fel camddefnyddio alcohol a chyffuriau yn effeithio ar yr oedolyn mewn perygl. Defnyddiwch hyn i osgoi gwneud datganiadau cyffredinol am faterion rhianta, diwylliant ac amrywiaeth.
  8. Eich cyfrifoldeb chi yw rhannu’ch adroddiad a’r oedolyn sy’n wynebu risg. Os oes pryderon genych am wneud hynny yna trafodwch gyda’r Gweithiwr Cymdeithasol.

Am wybodaeth ychwanegol gweler:

Robinson, A, Rees, A and Dehaghani R (2018) Findings from a thematic analysis into adult deaths in Wales: Domestic Homicide Reviews, Adult Practice Reviews and Mental Health Homicide Reviews Cardiff University, (Cafwyd ar 21/ 7/ 2019)