Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Paratoi oedolion sy’n wynebu risg at gyfarfodydd diogelu

Mae angen i ymarferwyr fod yn greadigol wrth feddwl am ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn cynnwys oedolion ac / neu eu cynrychiolwyr yn effeithiol yn ystod cyfarfodydd amddiffyn.

Dylid ystyried y canlynol wrth gynllunio’r cyfarfod:

  • Sut dylid cynnwys yr oedolyn? A fyddai orau i’r oedolyn fod yn y cyfarfod, neu a fyddai’n well ganddo gyfrannu ei farn a’i ddymuniadau mewn ffordd wahanol, e.e. datganiad ysgrifenedig? Ai un cyfarfod mawr fydd y dewis gorau, neu nifer o gyfarfodydd llai?
  • Ble bydd y lleoliad gorau i gynnal cyfarfod? Ble gallai’r oedolyn deimlo fwyaf cysurus a gyda’r gallu i gyfrannu?
  • Pa mor hir dylai’r cyfarfod bara? Pa hyd o amser fyddai’n diwallu anghenion yr oedolyn a bod yn bosibl iddo ymdopi ag ef?
  • Pryd dylid trefnu’r egwyl i ateb anghenion yr oedolyn orau?
  • Pa amser o’r dydd fyddai’r mwyaf cyfleus i’r oedolyn? Ystyriwch yr effaith ar batrymau cysgu’r unigolyn, ei feddyginiaeth, ei gyflwr, ei ddibyniaeth, a’i anghenion gofal a chymorth;
  • Beth fydd ar yr agenda? A yw’r oedolyn yn cael ei gynnwys wrth bennu’r agenda?
  • Pa baratoadau mae angen eu gwneud gyda’r oedolyn? Sut gellir ei gefnogi i ddeall pwrpas y cyfarfod a’r canlyniadau disgwyliedig?
  • Pwy yw’r person orau i gadeirio? Beth gallai ei wneud i ennill ffydd yr oedolyn?
  • A fydd pob aelod y cyfarfod yn ymddwyn mewn ffordd sy’n cynnwys yr oedolyn yn y drafodaeth?
  • Sut gall aelodau’r cyfarfod cael eu hannog i gyfathrebu ac ymddwyn mewn modd cynhwysol, gan ddefnyddio iaith y mae’r person yn ei deall?
  • Sylwadau gan ofalwyr anffurfiol/teulu neu eiriolwyr.

(Wedi ei gymryd gan Bolisïau a Gweithdrefnau Bornemouth a Poole ar gyfer oedolion mewn perygl )