Mae ymchwiliadau yn dilyn marwolaethau ac anafiadau difrifol i oedolion sy’n wynebu risg wedi tynnu sylw at y ffaith y gall weithiau fod angen nifer o adroddiadau cyn i’r awdurdod lleol weithredu. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd dylanwad amrywiaeth o ffactorau.
Canfu ymchwilwyr y gall y canlynol ddylanwadu ar y ffordd mae penderfyniadau yn cael eu cymryd wrth ymateb ihysbysiadau. Ystyrir y rhain isod, ynghyd â chwestiynau y gall y sawl sy’n cymryd hysbysiadau holi eu hunain er mwyn gofalu bod y gwiriadau cychwynnol yn parhau i ganolbwyntio ar yr unigolyn:
- Baich achos y tîm a /neu y sawl sy’n cymryd yr hysbysiad yn teimlo wedi gorweithio a than straen
- I ba raddau y mae nifer yr hysbysiadau sydd angen eu prosesu yn effeithio ar f’ymateb?
- A gefais i ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad deallus am y camau nesaf?
- A gafodd f’ymrwymiadau personol effaith ar f’ymateb i’r hysbysiad hwn?
- A roddais ddigon o amser i’r hysbyswr esbonio ei b/phryderon? Wnes i ei h/annog i gael manylion?
- Rhagdybiaethau am oedolyn sy’n wynebu risg
- A wyf i’n gwneud rhagdybiaethau am allu unigolyn i amddiffyn ei hun?
- Oes gen i farn am oedolyn sy’n wynebu risg sydd yn effeithio ar f’ymateb?
- Gor-uniaethau â gofalwyr
- Fuaswn i’n ymateb yn yr un modd pe na bai’r unigolyn sydd hefyd yn oedolyn sy’n wynebu risg yn ‘anodd’?
- A wyf i’n gor-gydymdeimlo â’r gofalwr/wyr?
- Y cyfeiriad/ffynhonnell
- A wyf yn dod i farn am ddifrifoldeb yr hysbysiad ar sail statws yrhysbyswr?
- Fuaswn i’n ymateb yn wahanol petai’r hysbysiad hwn gan rywun arall?
- A wyf i’n wfftio’r hysbysiad hwn fel un maleisus oherwydd bod yr hysbyswr eisiau aros yn ddienw?
- Gwybodaeth flaenorol am yr asiantaeth neu’r lleoliad preswyl
- Sut mae fy mherthynas yn y gorffennol â’r hysbyswr a’i asiantaeth yn effeithio ar fy marn?
- Sut mae fy mhrofiadau o’r lleoliad preswyl hwn yn sail o wybodaeth i’m barn?
- Gwybodaeth flaenorol am yr oedolyn sy’n wynebu risg
- A wyf i’n gwneud rhagdybiaethau ac yn dod i farn yn rhy gynnar am yr hysbysiad hwn ar sail yr hyn rwy’n wybod am yr unigolyn hwn?
- Pa arsylwadau a thystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi/gwrth-ddweud fy rhagdybiaethau?
- Rhagfarn anymwybodol posib am grwpiau penodol, e.e., statws cymdeithasol-economiadd uwch, DLlE
- Pa ragdybiaethau rwy’n wneud?
- Petawn i’n derbyn yr hysbysiad hwn gan oedolyn sy’n wynebu risg sy’n byw mewn cymuned ddifreintiedig, a fuaswn i’n ymateb yn yr un modd?
- A wyf i’n ymateb i’r sefyllfa hon mewn modd penodol oherwydd bod yr oedolyn sy’n wynebu risg o gymuned DLlE?
- A yw fy mhrofiadau o weithio gyda theuluoedd penodol wedi effeithio ar fy marn?
- Amser yr hysbysiad – mae hysbysiadau dros y penwythnos yn llai tebygol o arwain at weithredu na rhai a dderbynnir yn ystod yr wythnos.
- Petawn i’n edrych ar yr hysbysiad hwn yn ystod oriau swyddfa, a fuaswn i’n ymateb yn wahanol iddo?
- A wyf i’n ymateb i’r hysbysiad hwn am ei bod yn 3pm ar bnawn Gwener yn wahanol i’r ffordd y buaswn yn ymateb petai’n 9 am ar fore Llun?
- Ffurf yr hysbysiad- mae hysbysiadau a dderbynnir trwy e-bost (neu ffurf ysgrifenedig arall) yn llai tebygol o dderbyn ymateb na rhai a dderbynnir dros y ffôn neu trwy ymweliad â’r oedolyn sy’n wynebu risg
- A wyf i’n cymryd nad yw hwn yn fater brys?
- Sut buaswn i’n ymateb i’r wybodaeth hon petai’r sawl sy’n hysbysu wedi cysylltu â mi dros y ffôn neu ei fod wedi ymweld â’r oedolyn y tybir sydd sy’n wynebu risg ac wedi cael y wybodaeth a arweiniodd at yrhysbysiad?
- Prinder adnoddau
- A yw f’ymateb yn seiliedig ar fy ngwybodaeth o restrau aros a/neu ddiffyg adnoddau, etc?
Dylai’r sawl sy’n cymryd hysbysiadau adfyfyrio ar y dylanwadau fu’n sail i’w hymateb ihysbysiad. Os ydynt yn credu bod dylanwadau goddrychol wedi chwarae rhan, dylid trafod hyn gyda’r goruchwyliwr.