Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Cael gwybodaeth yn ystod y sgrinio a’r gwerthuso cychwynnol – Yr heriau

Canfu’r trosolwg o adolygiadau arfer gydag oedolion, adolygiadau yn dilyn lladd ac adolygiadau o achosion lladd lle mae iechyd meddwl yn ffactor faterion allweddol yn ymwneud a chael gwybodaeth ac asesiadau; dyma rai:

  • ‘Roedd yr asesiadau a gynhaliwyd gan ymarferwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar agweddau penodol o ymddygiad, gan esgeuluso eraill, a thrwy hynny lleihau cywirdeb cyffredinol yr asesiad’.
  • Aseswyd rhai unigolion fel rhai sy’n wynebu risg (h.y.bregus), yn hytrach na’u bod hwy yn beryglus (h.y.niweidiol).
  • Roedd golwg twnnel yn golygu y byddid yn ffurfio naratif a’r arfer yn cael ei lunio er mwyn cyd-fynd â’r naratif penodol hwn.
  • Nododd y sawl a gymerodd ran mewn grwpiau ffocws y gall asesiadau gael eu gyrru gan brosesau, a bod hyn yn golygu eu bod yn cael eu gweld fel ymarferiad ‘ticio bocsys’ (dichon fod hyn yn ganlyniad i effaith Dangosyddion Perfformiad Allweddol). Cytunwyd fod angen asesu holistaidd a chyson ac y dylai asesiadau fod yn ddogfennau ‘byw’. Ystyriwyd bod asesiadau yn fwy cadarn pan fyddent yn cael eu cyfoesi neu ail-edrych arnynt yn gyson; pan fyddai cyfraniad gan y teulu ac ystyriaeth o’r effaith ar y teulu; a phan fyddent yn tynnu ar safbwyntiau amlasiantaethol.)’

Mae’r materion hyn yn tynnu oddi wrth agwedd o ganolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n bwysig felly bod ymarferwyr yn ymwybodol o ffyrdd y gall gwybodaeth gael ei gamliwio.

Gwybodaeth yn cael ei drin ar ei ben ei hun.

Gellir canoli ar un oedolyn ac un digwyddiad yn unig. Allwch chi ddweud wrtha’i beth wyddoch chi am y gofal gaiff Ms Jones yn y ganolfan dydd? Gall hyn arwain at ymatebion penodol iawn sydd yn gwthio i’r ymylon oedolion eraill a allai fod sy’n wynebu risg. Gall rhywun sy’n rhoi gwybodaeth hefyd fod yn ddethol ynghylch beth mae’n rannu am ei f/bod, er enghraifft, yn ofni ymateb darparwr gwasanaeth neu yn gor-uniaethu â’r darparwr hwnnw.

Dehongliad dethol o wybodaeth fel perthnasol neu amherthnasol.

Er enghraifft, ‘beth wyddoch chi am Ms Jones?’ gellir gwneud cais cyffredinol am wybodaeth. Pan fo hyn yn digwydd, mae’r ymarferydd sy’n darparu’r wybodaeth yn gorfod penderfynu a yw’n berthnasol ai peidio.

Rheol optimistiaeth.

Er enghraifft, ‘Dim ond meddwl yr oeddwn i y dylwn wneud yn siŵr am hyn gyda chi, ond rwy’n sicr nad oes dim sy’n haeddu mynd â’r peth ymhellach’. Os yw’r ymarferydd sy’n ceisio’r wybodaeth yn credu nad oes dim o’i le ond mai dilyn y drefn y maent, fe all gymryd agwedd ddi-hid - dim byd i’w boeni yn ei gylch - sydd yn ei dro yn ennyn yr un ymateb optimistaidd gan y sawl sy’n rhoi’r wybodaeth.

Syniadau sefydlog neu gredoau cryf am y sefyllfa.

Er enghraifft, ‘Allwch chi ddweud wrthon ni am Ms Jones; rydyn ni’n hen gyfarwydd â hi a dyw hi ddim yn syndod o gwbl ein bod wedi cael hysbysiad arall eto fyth am gam-drin corfforol gan ei chymar’. Efallai bod yr ymarferydd a gymerodd yr hysbysiad eisoes wedi dod i farn gychwynnol am y pryderon a’r sawl allai fod wedi cam-drin. Gall goslef y llais neu’r wybodaeth y gofynnir amdano yn ddiarwybod ennyn gwybodaeth gan eraill sydd yn cadarnhau ei f/barn.

Pan welir yr agweddau goddrychol hyn fel y nodwyd gan Robinson et al., (2018)

‘byddai ystod y farn sy’n agored i’r unigolyn yn culhau yn hytrach nag yn ehangu. Gallai achosion ddod yn ‘sownd’; mae golwg twnnel yn ategu barn benodol am yr unigolyn, gyda’r canlyniad mai mathau penodol o ddewisiadau fydd yn cael eu rhoi ar waith. Pan na fydd y rhain yn gweithio, anaml y mae ymarferwyr yn camu allan o’r twnnel i ail-werthuso eu dewisiadau.’

Am fwy o wybodaeth, gweler:

Robinson, A, Rees, A and Dehaghani R (2018) Findings from a thematic analysis into adult deaths in Wales: Domestic Homicide Reviews, Adult Practice Reviews and Mental Health Homicide Reviews Cardiff University (Cyrchwyd 21/ 7/ 2019)