Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Gweithio gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg yn ystod ymholiadau i gamdriniaeth ac esgeulustod

Mae Byrddau Diogelu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi cymryd yr egwyddorion allweddol o ran arfer da wrth ddiogelu oedolion a’u trosi yn rhestr wirio i’w ystyried trwy gydol y broses o ymateb ihysbysiad. Addaswyd y rhain isod yn gwestiynau y dylai ymarferwyr holi eu hunain er mwyn sicrhau bod eu harfer yn canoli ar yr unigolyn.

Trwy gydol y broses hon, mae’n bwysig, lle bo modd, gweithredu ar gyflymder sy’n iawn i’r oedolyn sy’n wynebu risg fel bod ganddo/i gymaint o reolaeth ag sy’n ddichonadwy dros ei b/fywyd.

Gan gadw mewn cof y graddau y mae’r oedolyn sy’n wynebu risg eisiau ymwneud â’r broses ddiogelu ac y gall wneud hynny,

  • Sut wyf i’n canfod dewisiadau a buddiannau gorau’r oedolyn sy’n wynebu risg?
  • Sut yr wyf wedi ystyried y rhain yn ystod y gwiriadau a’r gwerthuso cychwynnol?
  • Beth wneuthum i hwyluso a chefnogi ymwneud yr oedolyn sy’n wynebu risg gan ystyried anghenion yr unigolyn?
  • A wyf wedi rhannu gwybodaeth am yr oedolyn sy’n wynebu risg yn briodol mewn ffordd sydd yn ystyried natur bersonol a sensitif y wybodaeth?
  • Sut wyf i wedi gweithio gydag asiantaethau eraill i ddod o hyd i’r ateb mwyaf effeithiol i anghenion diogelwch, gofal a chefnogaeth yr oedolyn sy’n wynebu risg?
  • Pa dystiolaeth sydd gennyf fy mod wedi esbonio fy swyddogaeth a’m cyfrifoldebau mewn dull y gall yr oedolyn sy’n wynebu risg ddeall?

Os oes gan yr oedolyn sy’n wynebu risg ‘anhawster sylweddol’ i ddeall gwybodaeth, a wyf i:

  • Wedi dod o hyd i unigolyn priodol i gynrychioli’r oedolyn sy’n wynebu risg?
  • A yw’n adnabod yr unigolyn yn dda?
  • Wedi canfod ei fod yn barod ac yn abl i gynrychioli’r oedolyn?

Ymhlith enghreifftiau o bobl briodol mae: y sawl gyda phŵer atwrnai, priod, aelod o’r teulu, cyfaill, gofalwr anffurfiol.

Mae’n annhebygol y bydd y sawl a amheuir o’r gamdriniaeth neu esgeulustod, megis cymar, yn unigolyn priodol.

Os nad oes neb fedr ymgymryd â’r swyddogaeth hon, yna dylid penodi eiriolwr annibynnol.

Am fwy o wybodaeth, gweler:

West Midlands Safeguarding Adult Procedures, er enghraifft, (Cyrchwyd 13/7/2019)