Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Gweithio gyda gwrthwynebiad gan yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i g/ofalwyr

I oedolion sy’n wynebu risg a’u gofalwyr mae ymholiadau am gamdriniaeth ac esgeulustod posib yn straenllyd, yn ddychryn ac yn codi lefelau pryder. Pan fo hyn yn digwydd, gallant ymateb trwy gymryd un o’r agweddau canlynol:

  • Modd ymladd: trwy wrthwynebu’r hyn sy’n digwydd. Gallant fod yn gorfforol neu’n eiriol ymosodol ac yn elyniaethus tuag at ymholiadau, er enghraifft trwy atal yr ymarferydd yn gorfforol rhag dod i’r cartref
  • Modd ffoi: trwy wadu’r hyn sy’n digwydd trwy ymbellhau, er enghraifft trwy ddweud celwydd -‘Damwain oedd hi’, osgoi ymarferwyr trwy redeg i ffwrdd, peidio cadw apwyntiadau a pheidio ymwneud
  • Modd rhewi: trwy roi rhagfur rhwng yr hyn sy’n digwydd oherwydd bod ymwybyddiaeth nad ydynt yn teimlo’n ddigon grymus i ymladd hyn a’u bod yn rhy ofnus i redeg i ffwrdd. Gall hyn arwain at anghofio ‘Wn i ddim /Tydw i ddim yn cofio’ neu gau eu cegau a dweud dim.
  • Modd cydymffurfio ar yr wyneb: bydd unigolion yn cuddio neu yn trin y ffordd maent yn ymddangos i wneud iddi edrych fel petaent yn cydweithredu neu fod y sefyllfa yn waeth na’r hyn ydyw mewn gwirionedd. Yn yr adolygiad yng Nghymru gan Robinson et al., cyfeiriwyd at hyn fel ‘twyllo’.

Neu fe all yr oedolyn sy’n wynebu risg:

  • Deimlo rhyddhad fod ei anghenion yn cael eu cydnabod
  • Ildio neu dderbyn y broses oherwydd, er enghraifft, bod hyn wedi digwydd gymaint o weithiau o’r blaen.

Gall yr ymarferydd ostwng lefelau pryder trwy wneud y canlynol:

  • talu sylw i’r modd y mae’r oedolyn sy’n wynebu risg a’r gofalwyr yn cael gwybod, lle a chan bwy
  • bod yn onest a sensitif am y sefyllfa
  • eu cydnabod fel pobl ac nid ‘problemau’
  • cydnabod deinameg grym
  • gwrando ar yr hyn sydd gan yr oedolyn sy’n wynebu risg a’r gofalwyr i ddweud
  • cydnabod eu hemosiynau a’u pryderon
  • ceisio gwahaniaethu rhwng ofnau gwirioneddol ac afrealistig

Mae’r ffordd y rheolir yr ymwneud cychwynnol yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd y berthynas yn y dyfodol rhwng y gweithiwr a’r teulu. Bydd angen i’r berthynas:

‘gael ei thrin yn sensitif gan ymarferwyr medrus. Dylai pob ymgais i ddatrys y sefyllfa gychwyn gyda thrafod, perswadio ac ennyn ymddiriedaeth. Efallai na fydd gwadu mynediad o rai yn arwydd fod y trydydd parti yn gwneud rhywbeth o’i le; gall fod yn arwydd o ddiffyg ymddiried mewn awdurdod, euogrwydd am eu hanallu i ofalu neu ofn y symudir yr oedolyn o’r cartref. Mae’n hanfodol, hyd nes bod y ffeithiau wedi eu canfod, fod yr ymarferydd yn cymryd agwedd agored, heb farnu’ SCIE t5

Canfu Rees et al (2018) yn y dadansoddiad o’r adolygiad yng Nghymru fod unigolion nad oedd yn ymwneud neu anhrefnus yn cael eu rhyddhau o wasanaethau a bod achosion yn cael eu cau heb i anghenion gael eu cwrdd pan oeddent wedi methu ag ymwneud, yn hytrach na’u bod yn cael asesiad newydd cadarn.

Am fwy o wybodaeth gweler:

Robinson, A, Rees, A and Dehaghani R (2018) Findings from a thematic analysis into adult deaths in Wales: Domestic Homicide Reviews, Adult Practice Reviews and Mental Health Homicide Reviews Prifysgol Caerdydd (Cyrchwyd 21/ 7/ 2019)

Ruch, G., Turney, D. and Ward, A. (eds) (2018) 2nd ed Relationship-based Social Work: Getting to the Heart of Practice Llundain: Jessica Kingsley

SCIE (2018) Gaining access to an adult suspected to be at risk of neglect or abuse: a guide for social workers and their managers in England. Llundain: SCIE (Cyrchwyd 21/7/2019)