Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Ymatebion ymarferwyr i wrthwynebiad ac ymosodedd

Gall oedolion sy’n wynebu risg a’u gofalwyr ymateb mewn gwahanol ffyrdd pan gânt eu hysbysu o wiriadau a gwerthuso cychwynnol. Gall yr ymatebion cychwynnol hyn barhau trwy gydol yr asesiad. Dylai ymarferwyr sy’n dod ar draws gelyniaeth ac ymosodedd ystyried sut y maent yn ymateb i hyn gan y gall eu hymateb wyro’r ymholiadau a throi sylw ymaith oddi wrth yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i anghenion.

Mae ymarferwyr yn ymateb mewn llawer ffordd wahanol wrth ddod yn erbyn gwrthwynebiad a gwrthdaro. Dyma rai:

Cyd-gynllunio gyda’r gofalwr sy’n cam-drin trwy osgoi gwrthdaro.

  • Osgoi cyswllt personol (ymweliadau cartref);
  • Defnyddio dulliau cyswllt o bell (e.e. cyswllt dros y ffôn ac e-bost yn lle ymweliadau i weld yr oedolyn sy’n wynebu risg);
  • Derbyn fersiwn y gofalwr o ddigwyddiadau yn ddi-gwestiwn yn niffyg tystiolaeth wrthrychol;
  • Canolbwyntio ar faterion llai dadleuol megis budd-daliadau / tai;
  • Canolbwyntio ar anghenion y gofalwr, nid rhai’r oedolyn sy’n wynebu risg;
  • Peidio â gofyn i weld yr oedolyn sy’n wynebu risg ar ei ben ei hun;

Newid ymddygiad i osgoi gwrthdaro.

  • Hidlo neu fychanu gwybodaeth negyddol;
  • Ar y llaw arall, gosod pwysau diangen ar wybodaeth gadarnhaol ('rheol optimistiaeth’) a chwilio am wybodaeth gadarnhaol yn unig;
  • Ofn wynebu aelodau o’r teulu am bryderon;
  • Cadw’n ddistaw am bryderon a pheidio â rhannu gwybodaeth am risgiau ac asesiadau gydag eraill yn y rhwydwaith rhyngasiantaethol neu gyda rheolwyr

Dylai’r holl ymarferwyr sy’n rhan o’r mathau hyn o asesiadau holi eu hunain a ydynt:

  • Yn teimlo rhyddhad pan nad oes ateb wrth y drws;
  • Yn teimlo rhyddhad pan fyddant yn gadael y drws;
  • Yn dweud, gofyn ac yn gwneud yr hyn y buasent fel arfer yn ddweud, gofyn neu’n wneud wrth dalu ymweliad neu wneud asesiad;
  • Wedi adnabod a gweld y bobl allweddol;
  • Wedi arsylwi tystiolaeth eraill a all fod yn byw yn y tŷ

Dylai ymarferwyr a’u goruchwylwyr holi eu hunain yn barhaus: beth allai’r oedolyn sy’n wynebu risg fod yn teimlo wrth i’r drws gau y tu ôl i’r ymarferydd wedi gadael cartref y teulu?

Am fwy o wybodaeth gweler:

Robinson, A, Rees, A and Dehaghani R (2018) Findings from a thematic analysis into adult deaths in Wales: Domestic Homicide Reviews, Adult Practice Reviews and Mental Health Homicide Reviews Prifysgol Caerdydd (Cyrchwyd 21/ 7/ 2019)

SCIE (2018) Gaining access to an adult suspected to be at risk of neglect or abuse: a guide for social workers and their managers in England. Llundain: SCIE (Cyrchwyd 21/7/2019)