Mae methiant i rannu gwybodaeth yn ganfyddiad cyffredin mewn adolygiadau o arfer oedolion.
Mae saith rheol euraid ar gyfer rhannu gwybodaeth a ddatblygwyd gan Lywodraeth EM, 2018. Dyma hwy
- Nid yw Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a chyfreithiau hawliau dynol yn rhwystrau i rannu gwybodaeth gyda chyfiawnhad ond y maent yn fframwaith i sicrhau bod gwybodaeth am unigolion byw yn cael ei rannu’n briodol. Beth wnaethoch ei rannu, gyda phwy ac i ba bwrpas.
- Byddwch yn onest ac agored gyda’r unigolyn (a/neu ei deulu lle bo hynny’n briodol) o’r cychwyn ynghylch pam, beth, sut ac â phwy y rhennir gwybodaeth, neu y gellir ei rannu, a cheisio eu cytundeb, onid yw’n anniogel neu amhriodol gwneud hynny.
- Ceisio cyngor ymarferwyr eraill, neu eich arweinydd llywodraethiant gwybodaeth, os oes gennych amheuon o gwbl am rannu’r wybodaeth dan sylw, heb ddatgelu pwy yw’r unigolyn lle bo modd.
- Lle bo modd, rhannwch wybodaeth gyda chydsyniad a, lle bo modd, parchwch ddymuniadau’r sawl nad ydynt yn cydsynio i gael eu gwybodaeth wedi’i rannu. Dan y GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 gallwch rannu gwybodaeth heb gydsyniad os, yn eich barn chi, fod sail gyfreithlon dros wneud hynny, megis lle gall diogelwch fod sy’n wynebu risg. Bydd angen i chi seilio eich barn ar ffeithiau’r achos. Pan fyddwch yn rhannu neu’n gofyn am wybodaeth bersonol gan rywun, byddwch yn glir ar ba sail yr ydych yn gwneud hynny. Lle nad oes gennych gydsyniad, cadwch mewn cof y gall unigolyn beidio â disgwyl i wybodaeth gael ei rannu.
- Ystyriwch ddiogelwch a lles: seiliwch eich penderfyniadau am rannu gwybodaeth ar ystyriaethau diogelwch a lles yr unigolyn ac eraill y gall eu gweithredoedd effeithio arnynt.
- Angenrheidiol, cymesur, perthnasol, digonol, cywir, amserol a diogel: gwnewch yn siwr fod y wybodaeth a rannwch yn angenrheidiol at y pwrpas yr ydych yn ei rannu, ei fod yn cael ei rannu yn unig a’r unigolion hynny sydd angen ei gael, ei fod yn gywir ac yn gyfoes, yn cael ei rannu yn amserol, ac yn cael ei rannu’n ddiogel (gweler egwyddorion).
- Cadwch gofnod o’ch penderfyniad a’r rhesymau drosto – boed i rannu gwybodaeth neu beidio. Os penderfynwch rannu, yna cofnodwch.
Am fwy o wybodaeth gweler:
BASW (2019) Safeguarding adults: sharing information (Cyrchwyd 21/7/2019)
NBwrdd Diogelu Gogledd Cymru (2019) Sharing Information: 7 Minute Briefing (Cyrchwyd 21/7/2019)
Henke R, Shepherd, l and O’Callaghan, A (2019) A Practitioner’s Guide. Basic Legal Principles NISB Wales (Cyrchwyd 3/7/2019)