Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Cyfarfod neu drafodaeth strategaeth?

Gall y drafodaeth ddigwydd mewn cyfarfod neu trwy ddulliau eraill megis telegynhadledd neu fideogynhadledd.

Does dim canllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y dylid cynnal trafodaeth strategaeth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, dylid ystyried y cwestiynau a ganlyn:

  • Faint o frys sydd i’r drafodaeth hon? Os yw’n fater o frys efallai na fydd modd trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb
  • Sawl asiantaeth sy’n gorfod bod yn rhan? Os mai dim ond un neu ddwy o asiantaethau sydd yn y cyfarfod strategaeth, mae sgwrs ffôn yn ddichonadwy. Nid yw trafodaethau teliffon yn gydnaws ag ymwneud gweithredol cynrychiolwyr llawer o asiantaethau.
  • Ai risg isel neu ganolig sydd i’r pryderon? Po fwyaf cymhleth a risg uchel yw lefel y pryderon, mwyaf gwerthfawr y gall cyfarfod strategaeth wyneb yn wyneb fod.

Trwy gydol y broses, mae’n bwysig bod ymarferwyr yn cadw meddwl agored a pheidio â dod i farn ymlaen llaw ynghylch a yw oedolyn wedi ei gam-drin neu ei esgeuluso neu’r rhan a chwaraewyd gan y teulu neu’r gofalwr. Yr hyn sy’n bwysig yw bod digon o wybodaeth yn cael ei gasglu i ffurfio barn gychwynnol. Gall y ffordd y mae’r ymarferydd gwaith cymdeithasol/heddlu yn cyflwyno’r cais am wybodaeth gan yr oedolyn, y teulu ac eraill a’r penderfyniad a wnaed osod yr olygfa ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd nesaf.

Fodd bynnag, nid yw’r broses hon yn wastad yn syml.

Dangosodd dadansoddiad Robinson et al o’r adolygiadau Cymreig (2018) sut y gall ffactorau goddrychol megis golwg twnnel, asesiadau arwynebol sy’n canolbwyntio ar broses yn hytrach na’r dasg, ac ymylu materion gyfrannu at asesiad gwallus a gwyro’r dull o lunio penderfyniadau.

Os cynhelir cyfarfodydd strategaeth grŵp, daw dylanwadau goddrychol ychwanegol i mewn i’r mater.

Yn eu plith mae:

Meddylfryd grŵp Lle mae pawb sy’n cymryd rhan mewn cyfarfod yn datblygu un farn am sefyllfa fel eu bod yn dehongli popeth trwy’r lens honno.

Polareiddio barn Gall hyn arwain at hollt gyda gwahanol safbwyntiau yn gwreiddio. Er enghraifft, gall y sawl sy’n gweithio yn bennaf gyda’r gofalwyr a’r sawl sy’n gweithio gyda’r oedolyn fod â gwahanol farn am yr hyn ddylai ddigwydd nesaf.

Chwarae grym Gall ymarferwyr gyda’r statws proffesiynol uchaf wfftio barn y rhai y tybir sydd â statws neu gymwysterau is. O ganlyniad, gall y rhai sy’n adnabod yr oedolyn orau, megis gweithiwr gofal, weld eu barn yn cael ei wthio i’r ymylon.