Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Rheoli anghydfod mewn teuluoedd

Mae canfyddiadau o’r hyn sy’n gamdriniaeth a/neu esgeulustod i oedolyn sy’n wynebu risg yn amrywio. Weithiau, bydd gan y teulu farn wahanol i ymarferwyr a gallant felly fod yn or-amddiffynol o’r oedolyn, gan fynnu y dylid ‘gwneud rhywbeth’. Ar y llaw arall, efallai na fydd aelodau’r teulu yn cydnabod y gamdriniaeth a/neu’r esgeulustod a mynnu bod yr ymarferwyr yn ‘gwneud ffỳs am ddim byd’. Gall aelodau’r teulu hefyd anghytuno ymysg ei gilydd ynglŷn ag a yw eu perthynas yn oedolyn sy’n wynebu risg. Yn y sefyllfaoedd hyn, rhaid i ymarferwyr wneud yn siwr bod unrhyw gamau a gymerir er lles yr oedolyn sy’n wynebu risg. Mae hyn yn golygu ceisio deall gwahanol safbwyntiau a gweithio gyda hwy i ddatrys gwahaniaethau er mwyn amddiffyn yr oedolyn sy’n wynebu risg . Lle bo oedolyn sy’n wynebu risg yn cael ei gam-drin a/neu ei esgeuluso mae dau ffactor allweddol yn dylanwadu ar ganfyddiadau:

  • Canfyddiadau o alluedd yr unigolyn i wneud penderfyniadau penodol
  • Canfyddiadau o’r ymreolaeth y dylai’r unigolyn gael i wneud penderfyniadau.

Mae’n bwysig i ymarferwyr ddeall canfyddiadau’r teulu am yr uchod fel y gall yr ymarferydd ddechrau sylweddoli ofnau a phryderon y teulu.

  • Bwriadwyd y cwestiynau isod i gychwyn sgyrsiau o’r fath:
  • Beth yw eich pryderon am y sefyllfa arbennig hon a gallu’r oedolyn sy’n wynebu risg i wneud penderfyniad yn y cyd-destun hwn?
  • A ddaethoch ar draws sefyllfaoedd tebyg yn y gorffennol gyda’r oedolyn sy’n wynebu risg a beth fu’n canlyniad?
  • Ar sail yr hyn wyddoch am yr oedolyn sy’n wynebu risg, faint o annibyniaeth ddylai gael, yn eich barn chi, i wneud penderfyniadau am y sefyllfa hon?
  • Allwch chi roi enghreifftiau diweddar o sefyllfaoedd lle gwnaethant yr hyn sydd yn eich barn chi yn benderfyniadau cadarnhaol a/neu wael?

(Addaswyd o Deci, E. a Ryan, R. 2017)

Am fwy o wybodaeth gweler

Deci, E. and Ryan, R. (2017) Self-Determination Theory: An Approach to Human Motivation and Personality (Cyrchwyd 17/7/2019)

SCIE (2018) Gaining access to an adult suspected to be at risk of neglect or abuse (Cyrchwyd 3/8/2019)