Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Sicrhau cyfranogiad gweithredol gan ymarferwyr yn y grŵp strategaeth

Mae’r ymarferwyr sy’n cymryd rhan mewn cyfarfod/trafodaeth strategol yn aelodau grŵp gorchwyl sy’n canolbwyntio ar dasgau y mae’n rhaid iddynt gydweithio er mwyn diwallu anghenion amddiffyn gofal a chymorth yr oedolyn sy’n wynebu risg.

Mae’r grŵp yn fwyaf tebygol o gyflawni’r dasg hon yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae pob cyfranogwr yn deall ei rôl a’i gyfrifoldebau wrth gyflawni’r cynllun;
  • mae gwahaniaeth amlwg rhwng penderfynu ar y cyd ac atebolrwydd awdurdod lleol;
  • eir i’r afael ag argraffau amrywiol o risg o gam-drin ac esgeuluso a’r goblygiadau ar gyfer ymarfer;
  • mae pob ymarferydd yn ymgysylltu â’r oedolyn sy’n wynebu risg yn unol â’i rôl a’i gyfrifoldebau;
  • ymatebir i bryderon a gofidion ymarferwyr ynglŷn â gwrthdaro ac ymddygiad ymosodol;
  • caiff cyfraniadau pob ymarferydd eu cydnabod a’u gwerthfawrogi;
  • nid yw aelodau’n ofni herio ymarferwyr eraill a/neu’r gofalwyr/teulu;
  • mae ymarferwyr yn osgoi jargon proffesiynol a ddim yn tybio bod pawb yn deall beth yw arwyddocâd blaenlythrennau;
  • dylai unrhyw leoliad deimlo’n gyfforddus i’r oedolyn sy’n wynebu risg a bod yn hygyrch iddo. Mae’n bwysig peidio â gwneud rhagdybiaethau am leoliad priodol heb ymgynghori â’r oedolyn sy’n wynebu risg;
  • cynhelir cyfarfodydd ar amser sy’n ei gwneud yn hawdd i’r oedolyn sy’n wynebu risg a’i ofalwyr ddod.