Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Datblygu cynllun amddiffyn gofal a chymorth: gwersi a ddysgwyd o adolygiadau arfer oedolion

Er bod ymarfer diogelu ar gyfer oedolion sy’n wynebu risg wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae pryderon am y cynlluniau wedi cael eu nodi mewn adolygiadau ymarfer oedolion yng Nghymru a’r rhai cyfatebol yn Lloegr.

“Nid oedd y Cynllun Diogelu Oedolion y cytunodd pob asiantaeth arno yn ddigon cadarn i nodi sbardunau y dylai sefydliadau fod wedi ymateb iddynt ar ffurf tîm amlddisgyblaethol._ Yn yr un modd, nid oes unrhyw fanylder am gyfrifoldebau sefydliadau unigol. _Mae’n bosibl y gallai cynllun diogelu manwl fod wedi nodi’r sbardunau yn yr achos hwn.” (NSWB EBR 3215)

“Ni welwyd tystiolaeth gan yr adolygwyr bod pwysigrwydd strategol yn cael ei roi i’r cynllun gweithredu._ _Nid oedd yr adolygwyr yn gallu pennu sut roedd yn cael ei roi ar waith a phwy oedd yn gyfrifol am wneud hynny.” (EBR2/2016/Conwy)

Rhai o’r pryderon a nodwyd:

  • mae oedolion sy’n wynebu risg, sydd wedi bod yn destun cynllun, wedi teimlo bod diffyg rheolaeth ganddynt;
  • diffyg cyfrifoldeb, atebolrwydd a chynnal cynlluniau diogelu;
  • cydlynu gwael oherwydd na neilltuwyd unigolyn penodol ar gyfer y dasg hon;
  • diffyg dealltwriaeth gan ymarferwyr ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt;
  • arweiniodd diffyg cyfarwyddyd a ffocws at fynd ar gyfeiliorn ac adolygiad gwael os cafwyd un;
  • cynlluniau nad ydynt yn gadarn, gyda chynlluniau wrth gefn os aiff cam-drin yn waeth a/neu nid yw’r cynllun yn cael y canlyniadau a ddymunir;
  • methu dilyn cynlluniau a wnaed;
  • tan-bwyslais ac weithiau gor-bwyslais ar bersonoli. Er enghraifft, mewn un adolygiad ar oedolyn, nid ymdriniwyd â’r risg i bobl eraill oherwydd y gwrthododd yr oedolyn sy’n wynebu risg yr ymyriadau a gynigiwyd gan yr asiantaethau a oedd yn ymwneud â’r achos;
  • diffyg dealltwriaeth o hanes yr oedolyn sy’n wynebu risg, megis profiadau blaenorol o ofal preswyl, a pherthnasoedd, megis deinameg teuluol gymhleth;
  • rhoi’r gorau pan oedd yr oedolyn sy’n wynebu risg yn ymddangos yn ‘heriol’;
  • peidio â nodi’r ymarferydd sy’n deall amgylchiadau’r oedolyn sy’n wynebu risg orau ac sy’n sicrhau na chollir cyd-destun y perygl mewn penderfyniadau aml-asiantaeth;
  • diffyg cydweddu rhwng ymarferwyr sy’n credu eu bod wedi cyfathrebu â’r teulu ynghylch y risg a theuluoedd yn credu nad yw hyn wedi digwydd;
  • ffocws ar allbynnau yn hytrach na chanlyniadau ynglŷn â’r ymyriad fel nod ynddo’i hun heb roi ystyriaeth ddyledus i’r effaith neu’r manteision sy’n gysylltiedig ag ef.

O ystyried y canfyddiadau hyn, mae’n bwysig bod ymarferwyr yn sicrhau’r canlynol:

  1. Ei bod yn glir o’r cam cynharaf yn union beth yw nod y broses a chaiff cynnydd ei fonitro yn briodol;
  2. bod dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng y gweithgaredd (allbwn) sy’n gysylltiedig â’r broses a’r canlyniad ei hun;
  3. y rhoddir sylw o ddifrif i’r canlyniadau a ddymuna’r oedolyn sy’n wynebu risg neu'r hyn sydd er ei fudd gorau os nad oes ganddo’r galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwn;
  4. caiff mesurau canlyniadau a dulliau sgorio cynnydd eu hasesu o ran y gwelliannau a ddisgwylir gan ymarferwyr ym mhrofiad bywyd pob dydd yr oedolyn sy’n wynebu risg, sy’n dangos ei fod/ei bod yn ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
  5. bod yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i ofalwyr yn deall sail resymegol y cynllun;
  6. bod y teulu’n deall yn iawn y rheswm dros y cynllun, yr hyn a ddisgwylir ganddynt, yr hyn y dylid ei gyflawni;
  7. cynhelir asesiad o allu unrhyw ofalwyr sy’n ymwneud â’r cynllun i newid ac y cydnabyddir goblygiadau’r cynllun
  8. cydnabyddir cryfderau’r oedolyn sy’n wynebu risg a’i deulu ac fe’i defnyddir wrth ddatblygu’r cynllun.

Peidiwch â/ag:

  1. Defnyddio ffyrdd byr o ddweud pethau, er enghraifft ‘oedolyn sy’n wynebu risg i gael gofal cartref’. Yn hytrach:
    • esboniwch yn glir pa bryderon sydd wedi eu nodi
    • sut dylai darpariaeth gwasanaeth neu gamau gweithredu gyfrannu at fynd i’r afael â’r pryder
    • sut ddarpariaeth a geir
    • sut caiff llwyddiant ei fesur o ran canlyniadau i’r profiad bywyd pob dydd sy’n amlwg yn well.
  2. Anwybyddu hanes a chysylltiad â’r gwasanaethau a gafwyd yn y gorffennol gan fod hyn yn rhoi syniad bethau sy’n gweithio a ddim yn gweithio i’r unigolyn;
  3. Dod yn or-ddibynnol ar wasanaeth penodol. Cofiwch fod angen atebion amlochrog ar broblemau amlochrog.

Am wybodaeth ychwanegol cyfeiriwch at:

Pachu D and Jackson C Analysis of Emerging Themes from Child Practice, Adult Practice and Domestic Homicide Reviews in Wales (1 April 2017 to 31 March 2018) Iechyd y Cyhoedd Cymru 2018

Learning from SARs A report for the London Safeguarding Adults Board S Braye and M Preston-Shoot 18th July 2017. (Ar gael 21/7/2019)