Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Amddiffyn oedolion sy’n wynebu risg rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Mae angen dull gweithredu sy’n cymryd risgiau cadarnhaol ar gyfer datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hynny’n golygu canolbwyntio ar yr hyn mae’r oedolyn sy’n wynebu risg yn gallu ei wneud yn hytrach na’r hyn nad all ei wneud. I lawer o oedolion sy’n wynebu, mae ganddynt hanes hir o ymarferwyr yn canolbwyntio ar bethau negyddol. Gall hyn arwain at ymarferwyr a gofalwyr yn gwneud pethau i a dros yr oedolyn sy’n wynebu risg er mwyn lleihau’r risg, ond drwy hynny yn cyfyngu ar ei ddewis.

Dylid canolbwyntio’n fwy ar gryfderau wrth gynllunio. Mae hyn yn golygu cydnabod galluoedd, cymhellion, dymuniadau a chanlyniadau a ddymunir. Mewn geiriau eraill, darganfod pwy ydy’r oedolyn a beth mae e eisiau. Os asesir nad oes gan yr oedolyn sy’n wynebu risg y galluedd meddwl i roi’r wybodaeth ar hyn o bryd, gall pobl eraill sy’n agos ato gynnig gwybodaeth.

Nododd Morgan a Williamson (2014) ffactorau y dylid eu hystyried wrth asesu risg i oedolion sy’n byw â demensia. Mae’r pwyntiau hyn yn berthnasol wrth ddatblygu gofal sy’n canolbwyntio ar y person a chynlluniau diogelu cymorth ar gyfer unrhyw oedolyn sy’n wynebu risg.

Dyma’r pwyntiau allweddol i’w hystyried:

  1. Ar wneud penderfyniadau da ynghylch risg y mae’r pwyslais wrth gymryd risgiau cadarnhaol; a pheidio â gadael pethau i hap a siawns.
  2. Nid oes y fath beth â phenderfyniad heb risg; mae risgiau hyd yn oed i’r dewis sy’n osgoi risgiau ac sy’n ymddangos yn ddiogel.
  3. Mae’n rhy hawdd gweld yr agweddau negyddol a’r diffygion ac aros yn anymwybodol o alluoedd a photensial yr oedolyn sy’n wynebu risg a galluoedd a photensial yr adnoddau sy’n agos atynt.
  4. Arfer pŵer yw gwneud penderfyniadau; mae pobl eraill (ni waeth pa mor dda eu bwriad) yn aml yn amddifadu oedolion o’r pŵer hwn.

Maent yn mynd ymlaen i ddadlau nad yw’n hawdd gwneud penderfyniadau a chynllunio i leihau risg ond dylai fod yn seiliedig ar y canlynol:

  • Mae pawb y mae’r penderfyniad yn debygol o effeithio arnynt yn rhan o’r broses, i raddau amrywiol
  • Gwybodaeth a meddwl manwl trwy gydol y broses ynglŷn â’r risgiau a’r manteision tebygol sydd ynghlwm wrth yr ymyriad a ddewisir
  • Gwybodaeth glir am alluoedd y person a lefel ei ddealltwriaeth o’r risgiau
  • cydnabod y budd i unigolyn o gael canlyniad cadarnhaol trwy gymryd risg penodol
  • cynllun sydd ar waith, gyda’r cymorth y gellir ei roi yn rhesymol, fel bod y person sy’n cymryd y risg yn teimlo mor ddiogel â phosib
  • rhagweld sut gallai pethau fynd o’i le, gydag ymateb argyfwng neu gynllun wrth gefn rhesymol ar waith.

Am wybodaeth ychwanegol cyfeiriwch at:

Nid yw papur Morgan and West ar gael ar-lein bellach, ond mae What is Important to People with Dementia gan y Rhwydwaith Arloesi Iechyd (Health Innovation Network) yn rhoi cyngor ar asesiadau sy’n canolbwyntio ar y person a chynllunio sy’n berthnasol i oedolion sy’n wynebu risg, (ar gael 21/7/2019)