Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Nodi ymyriadau effeithiol i oedolion â chynllun diogelu gofal a chymorth

Dylai ymarferwyr cyfarfodydd strategol ystyried ‘yr hyn sy’n gweithio’ wrth ddatblygu’r cynllun.

Cafwyd bod y canlynol yn bwysig:

  • sefydlu perthynas o safon â’r oedolyn sy’n wynebu risg a’r ymarferwyr;
  • mae cydnabod cryfderau wrth gydnabod anawsterau’n fwy tebygol o arwain at ymgysylltu yn hytrach na chanolbwyntio ar broblemau a phryderon yn unig;
  • bod yn ymwybodol bod angen atebion amlochrog ar broblemau amlochrog;
  • ymyriadau priodol ar gyfer anghenion a nodwyd yn hytrach nag agwedd ‘dyna’r cyfan sydd gennym felly rhaid iddo wneud y tro’
  • dylid cydnabod pa mor sylweddol yw rhai o’r newidiadau sy’n angenrheidiol gan bennu cerrig milltir a mesur cynnydd yn gynyddrannol;
  • gallai bod angen cymorth parhaus ar oedolion sy’n wynebu risg a’u gofalwyr i gynnal newid.

Am wybodaeth ychwanegol cyfeiriwch at:

Pachu D and Jackson C (2018) Analysis of Emerging Themes from Child Practice, Adult Practice and Domestic Homicide Reviews in Wales (1 April 2017 to 31 March 2018) Iechyd y Cyhoedd Cymru 2018

Robinson, A, Rees, A and Dehaghani R (2018) Findings from a thematic analysis into adult deaths in Wales: Domestic Homicide Reviews, Adult Practice Reviews and Mental Health Homicide Reviews Prifysgol Caerdydd (Ar gael ar 21/ 7/ 2019)