Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Monitro ac adolygu’r cynllun

Mae’n bwysig monitro ac adolygu’r cynllun ym mhob cyfarfod/trafodaeth strategaeth i ystyried y camau gweithredu a’r canlyniadau a ddymunir.

Dylai’r cwestiynau canlynol helpu’r broses hon:

Beth rydyn ni wedi’i wneud sy’n gwneud gwahaniaeth?

Yn ogystal â chael gwybod a yw’r camau gweithredu wedi’u cwblhau, diben y cwestiwn hwn yw gweld a ydynt yn gwneud gwahaniaeth. Fel y nodwyd mewn adolygiadau yn dilyn marwolaethau oedolion sy’n wynebu risg, mae ymarferwyr ac, yn wir, yr oedolyn sy’n wynebu risg a’r gofalwyr wedi ymddangos i ddilyn gweithdrefnau, megis cadw apwyntiadau, ond maent yn cydymffurfio â chynlluniau’n arwynebol yn unig yn hytrach nag ymwneud nhw mewn ffordd ystyrlon.

Pa dystiolaeth sydd gennym bod y camau gweithredu’n diogelu’r oedolyn sy’n wynebu risg?

I asesu a yw’r camau gweithredu a gymerir yn gwneud gwahaniaeth, mae angen i ymarferwyr gasglu tystiolaeth. Gellir cyflawni hyn trwy gael gwybod gan yr oedolyn sy’n wynebu risg a’r ymarferwyr a yw’r oedolyn yn fwy diogel.

Beth nad ydyn ni wedi llwyddo i’w wneud neu beth rydyn ni wedi gwrthsefyll ei wneud a pham?

Diben y cwestiwn yw amlygu’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun nad ydynt wedi’u cyflawn hyd yma. Gallai bod sawl rheswm dros hyn, er enghraifft, rhestri aros ar gyfer gwasanaethau. Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried y goblygiadau ac, os oes angen, cytuno ar gynlluniau eraill neu rai wrth gefn.

Ond mae’n bosibl nad yw camau gweithredu wedi cael eu cyflawni oherwydd bod yr oedolyn sy’n wynebu risg yn eu gwrthsefyll. Os mai dyma’r achos, dylid gwneud pob ymdrech i ddeall pam, ac a ellir cyflawni’r un canlyniadau trwy gamau gweithredu gwahanol.

Sut awn i’r afael â hyn?

Mae oedolion sy’n wynebu risg yn llawer mwy tebygol o gymryd rhan mewn cynlluniau os ydynt yn teimlo bod ymarferwyr yn cymryd yr heriau maent yn eu hwynebu o ddifrif wrth gymryd rhan yn y cynllun ac yn eu cynorthwyo i ateb yr heriau.

Am wybodaeth ychwanegol cyfeiriwch at:

Pachu D and Jackson C (2018) Analysis of Emerging Themes from Child Practice, Adult Practice and Domestic Homicide Reviews in Wales (1 April 2017 to 31 March 2018) Iechyd y Cyhoedd Cymru 2018

Robinson, A, Rees, A and Dehaghani R (2018) Findings from a thematic analysis into adult deaths in Wales: Domestic Homicide Reviews, Adult Practice Reviews and Mental Health Homicide Reviews Prifysgol Caerdydd (Ar gael ar 21/ 7/ 2019)