Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Hyrwyddo cyfranogiad ymhlith oedolion sy’n wynebu risg a heb alluedd meddyliol

Mae’n bwysig cydnabod bod gan bob oedolyn sy’n wynebu risg ei anghenion penodol ei hun a dylid ei barchu fel unigolyn.

Gan gymryd bod gan yr oedolyn alluedd meddyliol, mae angen y canlynol ar gyfer ymarfer effeithiol:

  • Nodi gan ba ymarferydd mae perthynas sefydledig, gadarnhaol â’r oedolyn a gan fanteisio ar hyn, sy’n ymgysylltu â’r oedolyn sy’n wynebu risg ac yn gwneud iddo deimlo’n gyfforddus yn trafod ei fywyd
  • Sicrhau bod yr oedolyn yn deall y cynllun ac yn credu mai’r nod yw gwella ansawdd ei fywyd
  • Cydbwyso barn unigolion am eu hanghenion a’u gwasanaethau â’u diogelu rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys gallu cyfiawnhau camau gweithredu nad ydynt yn gamau o ddewis gan yr oedolyn sy’n wynebu risg;
  • Caniatáu iddo ddewis ei dull o gyfathrebu, er enghraifft trwy eiriolwr;
  • Cyfathrebu gan ddefnyddio cwestiynau penagored yn hytrach na rhai arweiniol;
  • gwrando’n astud;
  • arsylwi’n drylwyr ac adnabod ymddygiadau fel dull o gyfathrebu;
  • siarad ag oedolion sy’n wynebu risg ar eu pennau eu hunain os yw’n ddiogel gwneud hynny;
  • dod o hyd i rywle lle mae’r oedolyn yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel, sy’n diwallu ei anghenion;
  • sicrhau bod cyfle iddo gael eiriolwr os dymuna;
  • bod yn onest a rhoi gwybodaeth gywir am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn a allai ddigwydd.

Os yw’r oedolyn sy’n wynebu risg wedi cael ei asesu ac nid yw’r galluedd meddyliol ganddo i wneud penderfyniadau am ei anghenion diogelwch, dylid gwneud penderfyniad sy’n ystyried budd gorau’r unigolyn ym mhob cam yn y broses. Dylai’r person sy’n gwneud penderfyniadau ar ran yr oedolyn sy’n wynebu risg ystyried y canlynol: “Beth sydd fwyaf buddiol i’r unigolyn yn y cam hwn yn y broses?

Dylid ystyried y canlynol:

  • mae’r broses budd gorau yn golygu rhannu penderfyniadau neu benderfynu gyda chymorth gan yr oedolyn sy’n wynebu risg a’i gynrychiolydd;
  • dylid ystyried lles corfforol a diogelwch yn ogystal â hapusrwydd a lles emosiynol yr oedolyn sy’n wynebu risg;
  • dylid gwneud ymdrechion i gynorthwyo’r oedolyn i ddeall a mynegi’r amcanion a ddymuna, ei brofiadau blaenorol a’r hyn sy’n bwysig iddo ar hyn o bryd. Mae angen ystyried hyn yng nghyd-destun galluedd yr oedolyn i wneud penderfyniadau am ei ddiogelwch;
  • Mae’n bwysig dod i adnabod yr oedolyn yn dda er mwyn sicrhau bod unrhyw ganlyniadau’n ystyried go iawn y pryderon o safbwynt yr oedolyn sy’n wynebu risg;
  • mae gwybodaeth gan y rhai sy’n adnabod yr oedolyn sy’n wynebu risg ac a oedd efallai yn ei adnabod cyn iddo golli galluedd meddyliol yn bwysig.

(addaswyd o Szerletics, 2016)*


Am wybodaeth ychwanegol cyfeiriwch at:

Szerletics A (2016) Best interests decision-making under the Mental Capacity Act

https://autonomy.essex.ac.uk/wp-content/uploads/2016/11/Best-Interests-Green-Paper-v3.0.pdf (Ar gael 21/7/2019)