Yn ol Rhannu Cymraeg English

Awgrymiadau Ymarfer: Agenda ar gyfer cyfarfodydd adolygu

Isod ceir templed ar gyfer strwythuro a chofnodi adolygiadau

Cyflwyniad/Ymddiheuriadau

Datganiad o gyfrinachedd

Diben y cyfarfod

Beth oedd yr amcanion roeddem yn ceisio eu cyflawni?

Dylai ffocws yr adolygiad fod ar werthuso newidiadau ansawdd ym mhrofiad bywyd pob dydd ac yn sgil y newidiadau hyn, neu ddiffyg newidiadau yn pennu camau gweithredu megis parhau â’r cynllun.

Manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y canlyniadau hyn o safbwynt yr oedolyn

Mae’n hanfodol cynnwys yr oedolyn sy’n wynebu risg neu ei gynrychiolydd yn y broses adolygu. Mae’n bwysig cael gwybod a yw’n credu bod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar ei fywyd.

Mae angen tystiolaeth benodol bod y cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar yr oedolyn sy’n wynebu risg.

Manylu ar y cynnydd yn erbyn y canlyniadau hyn gan bobl eraill sy’n ymwneud â’r achos

Dylai’r grŵp strategol ddarparu adroddiadau sydd, wedi’u cyfuno, yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r gwaith a wnaed gan yn grŵp a’i effeithiolrwydd.

Wrth ystyried cynnydd, mae’n bwysig cydnabod effaith llwythi gwaith staff, salwch, diffyg adnoddau ac ati ar y broses o roi’r cynllun ar waith.

Beth yw lefelau presennol y risgiau o gam-drin ac esgeuluso i’r oedolyn?

Dylai aelodau’r adolygiad geisio deall pam mae’n bosibl na chydweithiodd yr oedolyn sy’n wynebu risg a/neu ei ofalwyr ag agweddau eraill ar y cynllun, ac a allai newid y cynllun hyrwyddo cyfranogiad.

Penderfyniadau ynglŷn â phennu:

1. Amddiffyn ar unwaith

Pa gamau gweithredu mae eu hangen?

A oes angen rhagor o ymholiadau a126?

neu

2. Nid yw’r oedolyn yn wynebu risg ond mae’n bosibl bod arno anghenion eraill o ran gwasanaethau gofal a chymorth

A oes angen cynllun gofal a chymorth?

neu

3. Mae’r oedolyn yn wynebu risg ac mae angen cynllun amddiffyn gofal a chymorth arno

A oes angen cynllun amddiffyn gofal a chymorth o hyd? Os felly, pa newidiadau?

A oes angen rhagor o gyfarfodydd adolygu?

Camau gweithredu sy’n deillio o’r adolygiad


Addaswyd o Weithdrefnau Ymholiadau Diogelu Oedolion Swydd Stafford a Stoke-on-Trent F4 82 Drafft f4 (Tachwedd 2017)