Tra bod nifer yr hysbysiadau gan y cyhoedd yn parhau yn isel, maent yn cynyddu oherwydd ymwybyddiaeth gynyddol o gam-drin ac esgeuluso.
Mae’n gyfrifoldeb ar ymarferwyr i roi gwybod am unrhyw bryderon y cânt wybod amdanynt gan y cyhoedd yn y gwaith ac yn eu bywyd preifat. Gall cymydog, aelod o’r teulu, ffrindiau, cydnabod roi gwybod i ymarferydd am gam-drin neu esgeulustod.
Mae’n bwysig bod ymarferydd yn rhoi gwybod i’r aelod o’r cyhoedd dan sylw bod ganddynt ddyletswydd i hysbysu am y pryderon hyn.
Enghraifft: Mae therapydd galwedigaethol mewn parti. Mae gwesta eraill yn dechrau siarad gydag ef ac yn dweud wrth y therapydd galwedigaethol ei bod wedi gadael ei gŵr, y mae wedi gwahanu oddi wrtho, yn gofalu am eu plant 9 ac 11 mlwydd oed. Mae hi’n poeni am hyn gan ei bod yn amau, yn ôl yr hyn a ddywed y plant, ei fod yn tynnu lluniau ohonynt pan fyddan nhw’n noeth. Mae dyletswydd ar yr ymarferydd i hysbysu.
Mae’n bosibl y bydd aelod o’r cyhoedd sy’n bryderus ynghylch y perygl o niwed i blentyn yn troi at ymarferwyr proffesiynol.
Enghraifft: Efallai bydd athro dosbarth yn clywed gan riant bod plentyn a ddaeth i chwarae wedi dweud wrth y rhiant ‘mae fy nhad yn hoffi fy nghyffwrdd yn fy mhants'. Mae dyletswydd ar yr ymarferydd i hysbysu.
Mae swyddog tai yn cael gwybod gan breswylydd mewn bloc o fflatiau bod dau blentyn ifanc yn aml yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda’r nos yn y fflat gerllaw. Mae dyletswydd ar yr ymarferydd i hysbysu.
Os yw aelod o’r cyhoedd yn trafod ei bryderon diogelu ag ymarferydd naill ai yn ei fywyd cartref neu yn y gwaith, mae dyletswydd ar yr ymarferydd i roi gwybod i’r gwasanaethau cymdeithasol am y pryderon.
Ni ddylai adael aelod y cyhoedd i gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol na chwaith ei gynghori i gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol.
Wrth wneud hysbysiad sy’n deillio o’r cyhoedd, rhaid i ymarferwyr wneud y canlynol:
Lle bo’n bosib, dylid annog aelodau o’r cyhoeddus i roi eu manylion cyswllt.