Rhannu Cymraeg English

Y broses yn dilyn hysbysiad

Adref 2

Dylai’r [ymarferydd(#tooltip) sy’n gwneud yr hysbysiad fod yn ymwybodol, yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad:

  • bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio cael eglurder ac yn archwilio natur unrhyw bryderon gyda’r hysbyswr. Dylai derbynnydd yr hysbysiad yn y gwasanaethau cymdeithasol:
  • adrodd y pwyntiau allweddol yn ôl;
  • gwirio’r dystiolaeth;
  • cadarnhau pwy sydd wedi cael gwybod beth am yr hysbysiad.
  • Bydd y gwasanaethau cymdeithasol bob tro’n trafod y sefyllfa gyda’r heddlu pan dderbyniant achos ynghylch pryder, sydd neu a allai fod yn drosedd.

Beth ddylai lluniwr hysbysiad ei wybod yn dilyn hysbysiad

Ar ddiwedd unrhyw drafodaeth â’r gwasanaethau cymdeithasol, dylai’r ymarferydd sy’n gwneud yr hysbysiad fod yn glir ynghylch y canlynol:

  • pwy dderbyniodd yr hysbysiad a’i swydd;
  • beth fydd yn digwydd nesaf;
  • y camau gweithredu cychwynnol arfaethedig y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn eu cymryd;
  • mynediad at wybodaeth sydd ar gofnod, gan gynnwys cynlluniau gofal a chymorth a’r asesiadau perygl sydd ar gael;
  • unrhyw drafodaeth gyda gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau eraill yn ôl yr angen (gan gynnwys yr heddlu, pan fo trosedd wedi’i chyflawni yn erbyn plentyn neu eraill neu unrhyw risgiau parhaus a allai fod yn bresennol);
  • pwy fydd yn cyflawni’r camau gweithredu/rolau a chyfrifoldebau;
  • amserlenni;
  • materion yn ymwneud â chydsyniad a’r hyn a ddywedir wrth y plentyn sy’n wynebu risg a’r teulu am yr hysbysiad a chan bwy;
  • manylion cyfeirio at asiantaethau eraill;
  • beth a ddywedir wrth yr unigolyn neu eraill ynghylch yr hysbysiad , gan bwy a phryd;
  • cytuno ar sut y gellir cysylltu i gael esboniad a gwybodaeth bellach os oes angen.

Y camau nesaf

Os yw ymarferwyr yn cyflwyno hysbysiad dros y ffôn, dylent gadarnhau’r hysbysiad hwnnw yn ysgrifenedig cyn pen 24 awr yn unol ag unrhyw ffurf hysbysu aml-asiantaeth y cytunwyd arno’n lleol.

Os, wedi gwneud yr hysbysiad cyntaf yn ysgrifenedig, nad yw’r hysbyswr wedi derbyn cydnabyddiaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol cyn pen 7 diwrnod gwaith, mae’n rhaid iddo gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol eto.

Dylai’r ymarferwr sy’n cyflwyno’r hysbysiad gofnodi canlyniad unrhyw drafodaeth a’r penderfyniad sy’n deillio ohoni.

Os na fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi camau gweithredu ar waith, dylid rhoi gwybod i’r plentyn a’r teulu yn uniongyrchol neu trwy’r ymarferwr sy’n gwneud yr hysbysiad am unrhyw gymorth arall sydd ar gael. Mae’n bosib y bydd ystod o opsiynau ar gael drwy wybodaeth, cyngor a chymorth neu drwy asesiad Rhan 3 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Adran 1 cymorth cynnar ac ymyrraeth

Anghytuno â phenderfyniad y gwasanaethau cymdeithasol: datrys anghytundeb

Cyfrifoldeb yr ymarferydd unigol yw sicrhau y caiff ei bryderon ynghylch plentyn sy’n wynebu risg o niwed eu cymryd o ddifri ac y gweithredir arnynt.

Os yw ymarferydd yn dal yn poeni am blentyn, rhaid i’r ymarferydd roi gwybod i’w reolwr llinell ei hun a’r person diogelu dynodedig yn ei asiantaeth.

Os yw ymarferydd yn dal yn poeni am blentyn, dylent ddod â’r mater i sylw uwch reolwr o fewn y gwasanaethau cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb am ddiogelu yn eu hardal, ar unwaith. Yn eu habsenoldeb, dylid rhoi gwybod i reolwr y tîm yn yr adran gwasanaethau cymdeithasol a dderbyniodd yr hysbysiad.

Petai’r unigolyn neu ei gynrychiolydd yn anghytuno â chamau gweithredu’r awdurdod lleol, mae gan bob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol brotocolau ar waith i ddelio â gwahaniaeth barn rhwng gweithwyr proffesiynol.