Rhannu Cymraeg English

Trosolwg o’r ddyletswydd i hysbysu

Adref 2

Ydw i'n gwybod am blentyn a all fod mewn perygl o niwed? Pa dystiolaeth sydd gen i: dategliad; wedi arsylwi hynny; gwybodaeth?

Oes angen i mi weithredu ar unwaith sicrhau diogelwch y plentyn? Ddylwn i ofyn am gymorth meddygol brys? A oes angen rhoi gwybod i'r heddu bod trosedd wedi'i chyflawni o bosib?

A oes swyddog diogelu yn fy asiantaeth y gallaf drafod hwn ag o? Oes angen i mi gysylltu a'r gwasanethau cymdeithasol i ofyn am gyngor? Beth yw canlyniadau'r trafodaethau dan sylw?

Oes angen i mi wneud atgyfeiriad i'r gwasanaethau cymdeithasol? Oes angen i mi geisio gofyn am gydsyniad? Pa wybodaeth sydd gennyf i'w rhannu: data craidd; pryder; amgylchedd byw'r unigolyn?

arrow

A ddylid gwneud yr atgyfeiriad dros y ffon ar unwaith, a'i ddilyn cyn pen 24 awr ag atgyfeiriad ysgrifenedig neu a yw lefel y pryder yn golygu bod atgyfeiriad ysgrifenedig yn ddigon? Pa gyngor gefais i ar hyn gan fy asiantaeth a gwasanaethau cymdeithasol?

arrow

Beth sydd angen i mi wneud nesaf? Dogfennu'r digwyddiad / pryderon; rhoi gwybod i bobl allweddol; sicrhau bod atgyfeiriad yn dod i law gan y gwasanaethau cymdeithasol cyn pen 7 diwrnod neu holi ynghylch hynny.