Rhannu Cymraeg English

Hysbysu pryderon am blentyn sy’n wynebu risg o gamdriniaeth, esgeulustod a/neu niwed

Adref 2

Mae disgwyl i ymarferwyr hysbysu am blant sy’n wynebu risg i’r adran gwasanaethau cymdeithasol yn yr awdurdod lleol perthnasol. Yr awdurdod priodol yw’r un lle credir y digwyddodd testun y pryder diogelu. Gallai hyn olygu hysbysu awdurdod lleol nad yw yn yr un ardal â’r un lle mae’r ymarferydd yn gweithio.

Os yw ymarferydd yn ansicr i ba awdurdod lleol y dylai hysbysu, dylai gysylltu â’u hadran Gwasanaethau Cymdeithasol leol i ofyn cyngor.

Enghraifft: Mae teulu sy’n byw yn un rhan o Gymru ar eu gwyliau mewn maes carafanau mewn rhan arall o Gymru. Eir â phlentyn i Adran Damweiniau ac Achosion Brys yr ysbyty lleol ar ôl iddo dorri ei fraich y diwrnod hwnnw.   Mae’r paediatregydd yn amau nad anaf damweiniol yw hwn ac mae’n cysylltu â’r gwasanaethau Cymdeithasol lleol yn yr ardal y mae’r maes carafanau ynddo - mae gan y Paediatregydd ddyletswydd i hysbysu am hyn i Awdurdod Lleol yr ardal y lleolir y maes carafanau ynddi.

 phwy y dylid cysylltu’r tu allan i oriau gwaith

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith 24 awr y dydd i alluogi asiantaethau eraill, ymarferwyr ac aelodau’r cyhoedd i hysbysu pryderon am blentyn sydd sy’n wynebu risg o gamdriniaeth y gallai fod angen ymateb iddynt y tu allan i oriau swyddfa arferol.

Dylid cysylltu â’r Tîm Dyletswydd Brys y tu allan i oriau gwaith arferol os yw’r ymarferydd a’r asiantaeth yn penderfynu bod plentyn sy’n wynebu risg.

Mae’n rhaid i ymarferwyr sy’n gweithio’r tu allan i oriau swyddfa fod yn ymwybodol o’r amgylchiadau lle dylid galw’r heddlu mewn argyfwng diogelu.

Os nad yw ymarferydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r tîm dyletswydd brys gwasanaethau cymdeithasol ac mae’n credu bod plentyn/person ifanc sy’n wynebu risg o niwed yn syth ac y byddai oedi’n cynyddu’r perygl, dylai gysylltu â’r heddlu.

Enghraifft: Enghraifft; mae person ifanc wedi dweud wrth weithiwr ieuenctid bod ei dad wedi’i bod yn ei gam-drin yn rhywiol bob tro y bydd ei fam i ffwrdd. – Mae hi i ffwrdd y noson honno ac nid yw’r person ifanc eisiau mynd adref. Bydd y tad yn casglu’r person ifanc ar ddiwedd y noson. – Mae’n rhaid i’r ymarferydd gysylltu â’r gwasanaeth y tu allan i oriau ac hysbysu am y sefyllfa ar unwaith.