Mae diogelwch y plentyn sy’n wynebu risg yn hollbwysig. Felly:
- Mae’n rhaid i’r ymarferydd wneud penderfyniad o ran p’un ai a oes pryderon uniongyrchol ynghylch diogelwch plentyn.
Enghraifft: Bydd staff meddygol mewn ysbyty yn bryderus y gallai rhyddhau plentyn i’w rieni roi’r plentyn sy’n wynebu risg uniongyrchol o niwed.
- rhaid rhoi camau gweithredu ar waith i ddiogelu’r plentyn rhag niwed.
- rhaid i ymarferwyr gysylltu â’r heddlu yn defnyddio’r rhif argyfwng: 999 os yw’r plentyn sy’n wynebu risg yn syth. Dylent wneud hyn heb oedi, er mwyn diogelu’r plentyn rhag y perygl o niwed difrifol;
Enghraifft: Mae rhieni plentyn sydd yn yr ysbyty yn bygwth mynd â’r plentyn oddi yno. Mae staff yr ysbyty yn credu y byddai hyn yn rhoi’r plentyn sy’n wynebu risg corfforol uniongyrchol.
- dylid hefyd ystyried diogelwch uniongyrchol plant neu oedolion eraill a allai fod sy’n wynebu risg o niwed uniongyrchol;
Enghraifft: Mae plentyn yn ei arddegau, yn ystod ymweliad cyswllt, yn bygwth ymosod ar ei fam a’i frawd ifanc gyda chyllell. Mae hefyd yn bygwth staff sydd wedi dod i’r ystafell.
- os oes angen sylw meddygol brys, dylid galw am ambiwlans trwy ffonio 999.