Rhannu Cymraeg English

Pryd dylid cysylltu â’r heddlu

Adref 2

Os oes gan aelod o’r cyhoedd neu ymarferydd achos rhesymol i amau bod plentyn, gan gynnwys plentyn heb ei eni, sy’n wynebu risg , mae’n ddyletswydd i hysbysu cyn gynted â phosibl i’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, os oes pryderon uniongyrchol ynghylch diogelwch plentyn neu fod trosedd wedi’i chyflawni yn erbyn plentyn, mae’n rhaid iddynt gysylltu â’r gwasanaethau brys ar unwaith i ddiogelu’r plentyn/plant rhag niwed difrifol.

Enghraifft: Mae ymwelydd iechyd yn galw heibio fflat ac mae plentyn sy’n dweud ei fod yn bedair oed yn dod i’r drws ac yn dweud wrth yr ymwelydd iechyd ei fod ar ei ben ei hun gyda’i chwaer fach ac nad yw’n gwybod pryd y bydd mami a dadi yn dod yn ôl. - mae’n rhaid i ymwelydd iechyd gysylltu â’r heddlu ar unwaith.

Os nad ydych yn siŵr a fu trosedd ai peidio, gofynnwch am gyngor gan yr heddlu.