Rhannu Cymraeg English

Niwed sylweddol

Adref 3 rhan 1

Pan mae hysbysebiad yn dod i law gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleolam blentyn sy’n wynebu risg o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod, mae’n ddyletswydd arnynt i ymateb. Os yw’r dystiolaeth yn dangos fod y plentyn yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol, yna dylid dechrau ymholiadau adran 47 Deddf Plant 1989. Y nod yw canfod natur y niwed a ph’un ai a yw’n sylweddol.

Nid oes unrhywn ddiffiniad statudol o niwed sylweddol. Felly, mae’n rhaid i ymarferwyr:

'Pan fo cwestiwn o ran p’un ai yw’r niwed yn ddifrifol yn canolbwyntio ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn, rhaid cymharu iechyd neu ddatblygiad y plentyn â’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol mewn plentyn tebyg'. (Adran 31(9), Deddf Plant 1989)

Diffinnir niwed fel:

  • camdriniaeth, mae hyn yn cynnwys camdriniaeth rywiol, esgeulustod, camdriniaeth emosiynol a chamdriniaeth seicolegol
  • achosi nam ar iechyd corfforol neu feddyliol (gan gynnwys yr hun a ddioddefir yn sgil gweld neu glywed person arall yn dioddef camdriniaeth).
  • achosi nam ar ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol neu ymddygiadol (gan gynnwys yr hun a ddioddefir yn sgil gweld neu glywed person arall yn dioddef camdriniaeth).

O.N. MAE’R CYFEIRIADAU AT ‘NIWED’ O RAN TRIN ACHOSION UNIGOL CYFROL 5 YNG NGHYD-DESTUN YMHOLIADAU ADRAN 47 YN GOLYGU NIWED SYLWEDDOL.