Rhannu Cymraeg English

Y gweithiwr cymdeithasol: (cydlynydd amddiffyn y cynllun gofal a chymorth)

Adref 3 rhan 2

Dylai pob plentyn, y mae ei enw’n cael ei roi ar y gofrestr amddiffyn plant, gael gweithiwr cymdeithasol sy’n cyflawni cyfrifoldeb yr ymarferydd ar gyfer yr achos. Rhaid i’r cadeirydd yn y gynhadledd gychwynnol sicrhau bod y gweithiwr cymdeithasol â chyfrifoldeb wedi cael ei nodi. Mae’r gweithiwr cymdeithasol bob tro’n weithiwr cymdeithasol sydd wedi’i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn gweithio ar ran gwasanaethau cymdeithasol gyda chymwysterau, hyfforddiant a phrofiad addas.

Dylai’r gweithiwr cymdeithasol wneud pob ymdrech i sicrhau bod y plentyn a’i deulu’n deall y canlyniadau a gynlluniwyd yn glir, eu bod yn derbyn y cynllun ac yn fodlon cydymffurfio ag e.

Rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol yn ei rôl fel cydlynydd cynllun amddiffyn, gofal a chymorth sicrhau ei fod yn cydlynu’r gwaith o baratoi, cwblhau, adolygu, cyflawni a diwygio’r cynllun.

Os nad yw’n bosibl penodi gweithiwr cymdeithasol rhaid rhoi gwybod yn syth i’r uwch reolwr perthnasol sy’n gyfrifol am amddiffyn plant yn y gwasanaethau cymdeithasol.

Dylai’r gweithiwr cymdeithasol:

  • weld y plentyn o leiaf bob 10 diwrnod gwaith a sicrhau bod y plentyn yn cael ei weld yn y cartref o leiaf bob 4 wythnos. (Caiff y cyfrifoldeb hwn ei ddirprwyo i reolwr llinell y gweithiwr cymdeithasol os bydd yn absennol yn ddirybudd);
  • sicrhau bod y plentyn yn cael ei weld ar ei ben ei hun lle bo hynny’n bosibl a dylid gwneud hyn o leiaf bob 6 wythnos;
  • sicrhau bod ystafell wely’r plentyn yn cael ei gweld o leiaf unwaith rhwng y cynadleddau;
  • sicrhau bod y cynllun amddiffyn plant amlinellol yn cael ei lunio gan y grŵp craidd yn gynllun amddiffyn plant amlasiantaethol mwy manwl;
  • cydlynu’r gwaith o gwblhau’r asesiad o anghenion y plentyn a’r teulu;
  • arwain y gwaith amlasiantaethol gyda’r plentyn a’r teulu;
  • cydlynu cyfraniadau aelodau teulu ac asiantaethau eraill er mwyn gweithredu’r cynllun;
  • adolygu cynnydd canlyniadau ar gyfer diogelwch a llesiant y plentyn mewn perthynas â’r cynllun amddiffyn plant;
  • cynnig ffocws ar gyfathrebu rhwng pob ymarferydd ac aelod teulu;
  • sicrhau bod gan y plant a’r rhieni ddealltwriaeth glir o amcanion y cynllun a’u bod yn gwybod am eu hawl i wneud cwyn a sut i wneud hynny;
  • cwblhau cofnod yr asesiad.

Os yw’r plentyn yn derbyn gofal neu’n byw i ffwrdd o’r cartref, gellir gweithredu’r safonau ar gyfer ymweld â phlant sy’n derbyn gofal.

Mae dyletswydd ar bob ymarferydd i roi gwybod i’r gweithiwr cymdeithasol am ddigwyddiadau arwyddocaol neu newidiadau mewn amgylchedd sy’n berthnasol i’r plentyn. Ni ddylai hyn atal gwneud adroddiad newydd os bydd risg neu bryderon pellach yn cael eu nodi, a dylid olrhain pryderon o’r fath yn ysgrifenedig.

Dylai’r gweithiwr cymdeithasol roi gwybod i geidwad y gofrestr amddiffyn plant yn syth am unrhyw wybodaeth berthnasol megis newidiadau i gartref neu gyfeiriad y plentyn, fel y gellir diweddaru’r gofrestr. Dylai’r gweithiwr cymdeithasol ddiweddaru ymarferwyr hefyd os bydd unrhyw newidiadau.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau i gyfeiriad lle mae’r plentyn yn byw, yn ogystal â manylion pobl newydd a allai fod yn mynd i/aros yn y tŷ’n rheolaidd.

Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid i’r gweithiwr cymdeithasol ar lafar a’i gadarnhau’n ysgrifenedig i’r holl asiantaethau perthnasol a’r teulu gan y gweithiwr cymdeithasol sy’n rhoi’r gorau i gyfrifoldeb neu’i reolwr llinell sy’n goruchwylio. Rhaid diwygio’r cofnodion cofrestru’n brydlon.