Rhannu Cymraeg English

Tasgau eraill ar gyfer y gynhadledd amddiffyn plant

Adref 3 rhan 2

Pan gaiff enw’r plentyn ei roi ar y gofrestr amddiffyn plant, dylai’r gynhadledd:

  • gytuno i sut bydd penderfyniadau ac argymhellion y gynhadledd yn cael eu cyfleu i’r rhieni neu ofalwyr ac i’r plentyn/plant, yn dibynnu ar oedran a dealltwriaeth y plentyn/plant, os nad oeddynt yn bresennol yn y gynhadledd;
  • cadarnhau pwy yw cydlynydd y cynllun gofal a chymorth (gweithiwr cymdeithasol) a nodi ei rôl, gan gynnwys trefniadau ymweld sy’n cydymffurfio â’r gofynion statudol;
  • nodi aelodaeth y grŵp craidd o ymarferwyr ac aelodau’r teulu fydd yn llunio ac yn gweithredu’r cynllun amddiffyn plant manwl fel offer y gellir gweithio gydag e;
  • sefydlu faint o blant a theuluoedd fydd ynghlwm wrth y broses cynllunio a gweithredu a nodi’r ffynonellau o gymorth ac eiriolaeth sydd ar gael iddynt;
  • gosod amserlenni ar gyfer cyfarfodydd y grŵp craidd, gan gynnwys dyddiad y cyfarfod cyntaf a llunio’r cynllun amddiffyn plant.

Dylai’r grŵp craidd gyfarfod o fewn 10 diwrnod gwaith o ddyddiad y gynhadledd amddiffyn plant gychwynnol ac yn fisol ar ôl hynny, heb fod yn fwy na phob 6 wythnos er mwyn:

  • pennu amserlenni ar gyfer cynadleddau adolygu h.y. nid yn fwy na thri mis o ddyddiad y gynhadledd amddiffyn plant cychwynnol ac nid yn fwy na phob chwe wythnos ar ôl hynny;
  • nodi amlinelliad o’r meysydd sydd angen ymdrin â nhw drwy barhau â’r asesiad i’w gwblhau o fewn 42 diwrnod gwaith o ddechrau’r ymholiadau adran 47;
  • nodi ac amlinellu’r modd y bydd ymarferwyr yn cyfrannu at yr asesiad parhaus;
  • amlinellu’r cynllun amddiffyn plant, gan gynnwys nodi pa anghenion i’w newid er mwyn diogelu’r plentyn a’r trefniadau ar gyfer monitro iechyd, datblygiad a chynnydd y plentyn;
  • ystyried a oes angen cynllun wrth gefn dan amgylchiadau penodol e.e. mewn achosion lle mae’r sawl sy’n cam-drin yn cael ei ddedfrydu i’r carchar, mae’r teulu’n rhoi’r gorau i gydweithredu neu’n methu a chydymffurfio â’r trefniadau;
  • egluro gwahanol bwrpas a chylch gorchwyl y gynhadledd, y grŵp craidd a’r gynhadledd adolygu amddiffyn plant;
  • argymell, os yw’n briodol, y dylai’r gwasanaethau cymdeithasol ystyried yr angen am gamau gweithredu cyfreithiol er mwyn amddiffyn y plentyn;
  • cynllunio unrhyw asesiadau iechyd neu ofal sydd eu hangen.

Rhaid i’r cadeirydd sicrhau bod y rhieni yn glir o ran y canlynol erbyn diwedd y gynhadledd:

  • y dystiolaeth o niwed a arweiniodd at y plentyn yn dod yn destun cynllun gofal, cymorth ac amddiffyn;
  • yr hyn sydd angen ei newid;
  • yr hyn a ddisgwylir ohonynt fel rhan o’r cynllun er mwyn amddiffyn ac annog llesiant y plentyn.
  • Dylai pob parti fod yn glir ynglŷn â rolau a chyfrifoldebau perthnasol aelodau’r teulu a gwahanol asiantaethau wrth weithredu’r cynllun.