Rhannu Cymraeg English

Plant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant yn symud

Adref 4

Rhaid i unrhyw asiantaeth/ymarferydd sy’n dod i wybod bod teulu â phlentyn sy’n destun cofrestriad amddiffyn plant yn symud i mewn neu allan o ardal roi gwybod i bob asiantaeth gysylltiedig yn ogystal â cheidwad y gofrestr.

Pan fo teulu’n symud allan o’r ardal

Pan ddaw’n hysbys bod teulu â phlentyn sy’n destun cofrestriad amddiffyn plant wedi symud, yn bwriadu symud, naill ai’n barhaol neu dros dro, allan o ardal yr awdurdod lleol, rhaid rhannu’r wybodaeth hon yn syth gyda’r cydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth (gweithiwr cymdeithasol) a’r rheolwr tîm perthnasol.

Rhaid i reolwr tîm/gweithiwr cymdeithasol yr ardal wreiddiol sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei rhannu gydag awdurdod lleol yr ardal mae’r teulu yn symud iddi, trwy ddefnyddio’r broses atgyfeirio y cytunwyd arni.

Rhaid anfon gwybodaeth ysgrifenedig i’r awdurdod sy’n derbyn o fewn tri diwrnod o unrhyw hysbysiad. Dylai hyn gynnwys:

  • cronoleg gyfredol;
  • asesiad llesiant diweddaraf;
  • cofnodion cynhadledd amddiffyn plant perthnasol;
  • y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth diweddaraf;
  • unrhyw gynllun AGG, os nad yw wedi’i gynnwys yn yr uchod.

Hefyd rhaid rhoi gwybod i geidwad y gofrestr yn yr awdurdod sy’n derbyn ar y cam hwn.

Cyfrifoldeb yr awdurdod gwreiddiol yw gwneud cais am gynhadledd drosglwyddo os mai symud parhaol yw hyn a/neu os bydd y teulu’n aros yn yr ardal am fwy na 12 wythnos.

Pan fo plentyn sydd ar y gofrestr amddiffyn plant yn symud allan o ardal dros dro

Os pennir bod y symud yn symud dros dro mae’n bwysig bod y trefniadau ar gyfer goruchwylio’r plentyn yn cael eu cytuno rhwng y rheolwr tîm yn yr awdurdod sy’n derbyn a’r awdurdod gwreiddiol

Dylid hysbysu holl aelodau’r grŵp craidd o’r cyfeiriad dros dro a hyd yr arhosiad tebygol allan o’r ardal.

Dylai’r trefniadau hyn gynnwys:

  • pwy fydd yn cynnal yr ymweliadau monitro amddiffyn plant;
  • amlder yr ymweliadau monitro;
  • lle y dylid cyfeirio pryderon gan weithwyr proffesiynol eraill;
  • pwy fydd yn trefnu ac yn cadeirio grwpiau craidd;
  • sut y caiff gwybodaeth ei rhannu a chyda phwy y caiff gwybodaeth ei rhannu.

Y gynhadledd amddiffyn plant ‘trosglwyddo’ ar gyfer plentyn sydd ar y gofrestr sy’n symud yn barhaol

Pan wyddir y bydd plentyn yn aros yn yr ardal yr awdurdod lleol yn barhaol, caiff cynhadledd amddiffyn plant ‘trosglwyddo’ ei threfnu gan yr awdurdod sy’n derbyn.

Dylid cynnal hon o fewn 15 diwrnod gwaith o’r hysbysiad a’r cytundeb y bydd y plentyn yn symud yn barhaol.

Rhaid i’r ymarferwyr perthnasol o’r ddwy ardal fynychu gan gynnwys:

  • cydlynydd y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth (gweithiwr cymdeithasol) o’r awdurdod gwreiddiol;
  • aelodau perthnasol o’r grŵp craidd o’r awdurdod gwreiddiol y mae angen iddynt gyflwyno adroddiad ysgrifenedig hefyd.

Ar ôl y gynhadledd, bydd y cyfrifoldeb dros yr achos yn trosglwyddo i’r awdurdod sy’n derbyn.

Os penderfynir cofrestru’r plentyn/plant bydd yr awdurdod sy’n derbyn yn nodi ar unwaith cydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth (gweithiwr cymdeithasol).

Anghydfodau

Ni ddylai anghydfodau rhwng awdurdodau ynghylch pwy sy’n gyfrifol am achosion rwystro sicrhau bod y gwaith o gynllunio dulliau diogelu ac amddiffyn yn briodol a rhwystro rheoli risgiau ar gyfer y plentyn.

Mae diogelwch a llesiant y plentyn o’r pwys uchaf trwy’r amser ac ni ddylent gael eu hanghofio pan godir materion ynghylch pwy sy’n gyfrifol am achosion.

Rhaid i reolwyr tîm sicrhau cyfathrebu priodol a phan fo’n briodol uwchgyfeirio i uwch reolwyr pan fo materion yn codi ynghylch symudiadau plant sy’n destun cofrestriad.