Dylai pob ymarferydd hysbysu’r gweithiwr cymdeithasol a’r heddlu yn syth os dônt yn ymwybodol fod plentyn sydd â’i enw ar y gofrestr amddiffyn plant ar goll.
Wedyn:
- dylai’r gweithiwr cymdeithasol yn ymgynghori â’r rheolwr tîm perthnasol a gwneud ymholiadau brys mewn ymgynghoriad a’r heddlu er mwyn dod o hyd i leoliad y plentyn;
- bydd y pwynt pan y pennir fod teulu ‘ar goll’ yn dibynnu ar y ffeithiau gwybyddus ynghylch y teulu a difrifoldeb y sefyllfa yn dilyn asesu. Y prif reswm dros geisio dod o hyd i deuluoedd o’r fath yw y gall y diflaniad fod yn arwydd fod cam-drin wedi digwydd.
- Dylai’r gweithiwr cymdeithasol gydgysylltu’n agos â’r heddlu er mwyn sicrhau nad oes dyblygu ar ymdrech a bod yr holl ymholiadau yn cael eu gwneud yn gydlynus a chael eu cofnodi. Dylid hysbysu’r uwch reolwr ar gyfer amddiffyn plant yn y gwasanaethau cymdeithasol. Dylid ceisio barn gyfreithiol ar y cyfle cyntaf posib.
- Os yw pob ymdrech i ddod o hyd i leoliad y plentyn yn methu, gall y rheolwr priodol yn y gwasanaethau cymdeithasol ofyn am gymorth gan: Swyddfa Gwaith a Phensiynau leol; Canolfan Budd-daliadau Plant; sefydliadau iechyd, addysg ac ysgolion; Gwasanaethau Mewnfudo’r DU.
- Dylai’r gweithiwr cymdeithasol hysbysu ceidwad y gofrestr amddiffyn plant a dylai’r ceidwad ystyried a ddylid dosbarthu manylion y teulu sydd ar goll i holl geidwaid cofrestri amddiffyn plant ledled Cymru a’r DU. Mae’n bosib y gall y ceidwad gydgysylltu â gweithiwr iechyd proffesiynol dros ddiogelu dynodedig er mwyn penderfynu i ba raddau y dylid dosbarthu o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
- Pan ddeuir o hyd i’r teulu, dylid hysbysu’r gweithiwr cymdeithasol a bydd yn dilyn y weithdrefn ar gyfer trosglwyddo achosion ar y gofrestr amddiffyn plant lle bo hynny’n briodol. Bydd y gweithiwr cymdeithasol hefyd yn sicrhau yr hysbysir yr holl asiantaethau eraill hefyd yn ogystal â cheidwad y gofrestr. Ar gyfer plant o oed cyn-ysgol mae gan weithwyr iechyd proffesiynol ran allweddol yn hysbysu asiantaethau eraill os yw’r plentyn ar goll.