Rhannu Cymraeg English

Rheoli’r gofrestr amddiffyn plant

Adref 4

Mae’r gofrestr amddiffyn plant yn rhestru’r holl blant yn ardal yr awdurdod lleol sy’n dioddef neu sy’n dueddol o ddioddef niwed sylweddol ac sy’n destun cynllun amddiffyn, gofal a chymorth ar hyn o bryd.

Diben y gofrestr yw

Diben y gofrestr yw:

  • sicrhau bod ymarferwyr ac asiantaethau partner y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn ymwybodol o’r plant oedd yn destun cynhadledd amddiffyn plant lle y dyfarnodd yr aelodau bod y plentyn yn dal i fod mewn perygl o niwed sylweddol a bod angen ei ddiogelu’n weithredol trwy ddarparu cynllun amddiffyn gofal a chymorth;
  • creu cofnod o’r holl blant yn yr ardal oedd yn destun cynllun amddiffyn, gofal a chymorth ond sydd wedi’u dad-gofrestru;
  • creu pwynt cyswllt canolog gan alluogi ymarferwyr sy’n bryderu am lesiant plentyn i gael gwybod a yw’r plentyn yn destun cynllun amddiffyn, gofal a chymorth ac enw cydlynydd y cynllun amddiffyn, gofal a chymorth hwnnw;
  • rhoi gwybod ystadegol am dueddiadau cyfredol yn yr ardal a chyfrannu at y coladiad cenedlaethol o ystadegau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant.

Ceidwad y gofrestr amddiffyn plant

Gweinyddir y gofrestr amddiffyn plant ar ran y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol gan y gwasanaethau cymdeithasol sy’n gweithredu dros yr ardal y mae’r plentyn yn bwy ynddi ar hyn o bryd.

Mae’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn gyfrifol am sicrhau bod systemau a phrosesau ar waith er mwyn rheoli’r gofrestr yn effeithiol ac er mwyn i asiantaethau partner gael mynediad at wybodaeth.

Cyfrifoldeb ceidwad y gofrestr yw sicrhau:

  • bod yr holl fanylion yn cael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant;
  • bod y gofrestr yn gyfredol a bod ei chynnwys yn gyfrinachol ac eithrio i ymholwyr dilys;
  • bod enw plentyn yn cael ei ychwanegu at y gofrestr o ganlyniad i benderfyniad cynhadledd amddiffyn plant yn unig, ac eithrio pan fo’n blentyn ar gofrestr amddiffyn plant awdurdod lleol arall sy’n symud i’r ardal. Yn yr achos hwn, caiff y plentyn ei gofrestru’n syth, a chaiff y cofrestriad ei adolygu yn y gynhadledd amddiffyn plant gyntaf yn yr ardal newydd.

Cael gwybodaeth o’r gofrestr amddiffyn plant

Ni ddylai cael gwybodaeth o’r gofrestr gymryd lle trafodaeth briodol am bryderon gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ond dylai fod yn rhan o’r gwaith o gasglu gwybodaeth gefndirol. Bydd ymholiadau gwahanol yn cael eu gwneud i’r gofrestr, gan ddibynnu am ba reswm mae’r cais am wybodaeth yn cael ei wneud. Er enghraifft, gall fod gofyn i CAFCASS ymgymryd ag ymholiad i’r gofrestr fel rhan o’u proses ffurfiol nhw mewn achosion preifat. Neu, gallai gweithiwr iechyd proffesiynol fod yn gwneud ymholiad ar ôl i blentyn ddod i’r uned ddamweiniau a’i fod yn peri pryder o ran diogelu. Dylai’r math o ymholiad sy’n cael ei wneud fod wedi ei fanylu a’i nod yn eglur. Dylai gweithdrefnau/llwybrau lleol fod yn eu lle.

Cyfyngir ar fynediad at y gofrestr amddiffyn plant i ymarferwyr sydd â phryder diogelu. Cadarnheir pwy ydyn nhw.

Mae’n hanfodol bod yr heddlu a gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael mynediad at y gofrestr yn ystod oriau gwaith a tu allan iddynt.

Gwneud ymholiad

Rhaid i’r ymholwr fod yn ymarferydd o asiantaeth wedi’i chynrychioli ar y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a chadarnheir pwy yw ef i sicrhau bod yr ymholwr yn ddilys.

  • Os yw enw plentyn ar y gofrestr, caiff yr ymholwr enw’r cydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth.
  • Cyfrifoldeb yr ymholwr yw rhoi gwybod i’r cydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth am yr ymholiad.
  • Cedwir cofnod o enwau plant y gwneir ymholiadau amdanynt.
  • Os gwneir ymholiad am blentyn yn yr un cyfeiriad â phlentyn ar y gofrestr, dylai’r ceidwad sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i gydlynydd cynlluniau amddiffyn, gofal a chymorth cofrestredig y plentyn.
  • Os gwneir ymholiad ond nad yw enw’r plentyn ar y gofrestr dylid cofnodi hyn ynghyd â’r cyngor wedi’i roi i’r ymholwr.