Rhannu Cymraeg English

Cyfarfod Strategaeth Proffesiynol

Adref 5

Bydd y Swyddog Diogelu Penodedig yn cynnull cyfarfod strategol proffesiynol pan fydd honiadau/pryderon ynglŷn â diogelu yn cael eu gwneud/codi am ymarferydd/person mewn swydd o ymddiriedaeth. Gall hyn naill ai fod ar sail bersonol neu broffesiynol, lle mae gan yr unigolyn gysylltiad ehangach â phlant neu oedolion sy’n wynebu risg.

Prif ddibenion y cyfarfod strategaeth yw:

  • Sicrhau bod gweithdrefnau amddiffyn plant/oedolion, troseddol a chyflogaeth yn cael eu cydlynu’n briodol
  • Rhannu’r holl wybodaeth berthnasol am yr honiad/pryder dan sylw
  • Ystyried pa gamau y gallai fod eu hangen i amddiffyn y plentyn neu’r oedolyn mewn perygl
  • Ystyried y tebygolrwydd o niwed i blant neu oedolion eraill sy’n wynebu risg y mae gan y person gyswllt â nhw yn ei waith neu mewn gweithgareddau eraill, a chytuno ar unrhyw gamau gweithredu y mae eu hangen
  • Ystyried a gwerthuso’r perygl o niwed i blant y sawl y gwneir yr honiad yn ei erbyn, a chytuno ar unrhyw gamau gweithredu y mae eu hangen
  • Trafod unrhyw honiadau blaenorol neu bryderon eraill
  • Cynllunio unrhyw ymholiadau y mae eu hangen, dyrannu tasgau a gosod amserlenni
  • Penderfynu pwy sydd i gael ei holi a’r asiantaeth sy’n arwain
  • Nodi’r rheolwr cyswllt arweiniol o fewn pob asiantaeth
  • Penderfynu pa wybodaeth y gellir ei rhannu â phwy, pryd a phwy fydd yn gwneud hyn
  • Cytuno ar amserlenni ar gyfer camau gweithredu a/neu ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd pellach
  • Ystyried a fu unrhyw gwestiynu o ran addasrwydd yr oedolyn i barhau i weithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg yn ei swydd bresennol
  • Ystyried a oes angen edrych eto ar unrhyw faterion disgyblu
  • Cytuno ar ba gam yn y broses y dylid gweithredu ar unrhyw faterion disgyblu
  • Ystyried unrhyw ffactorau eraill a all effeithio ar y ffordd y mae’r achos yn cael ei reoli e.e. ystyried yr angen am strategaeth gyfryngau lle mae’r achos yn debygol o fod o ddiddordeb i’r wasg
  • Cadarnhau’r trefniadau ynglŷn â phwy fydd yn cyfathrebu â’r sawl y mae pryderon amdano a sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei rhoi
  • Sicrhau bod yr atgyfeiriadau priodol yn cael eu gwneud i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chyrff cofrestredig y gweithiwr proffesiynol dan sylw (gellir cwblhau hyn ar unrhyw adeg drwy gydol y broses)
  • Mae’n bosib y bydd rhaid i’r cyflogwr/sefydliad gwirfoddol neu’r corff cofrestru ystyried gwahardd y cyflogai heb ragfarn.

Mae’n debyg y bydd angen mwy nag un cyfarfod strategaeth proffesiynol i gydlynu, monitro ac adolygu’r broses.